Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Laura Green

Laura Green

Delyn

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Yr Amgylchedd - Canolbwyntio ar ansawdd dŵr
  • Iechyd meddwl - Cael gwared ar y stigma
  • Mwy o amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Laura Green

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Fy enw i yw Laura Green - dw i'n fyfyriwr 16 oed sy'n astudio yn Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, yn angerddol am faterion lleol sy'n ymwneud â'm cymuned, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar fy ngrŵp oedran i neu bobl iau na fi.

Ar ôl byw drwy'r ysgol uwchradd a gweld yn uniongyrchol sut mae fy ffrindiau, fy nheulu a’m ffrindiau ysgol wedi dioddef o faterion amrywiol, mwy o bwysau a heriau - mae'n amlwg bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i helpu pobl ifanc i ymdopi.

Gan fy mod i’n credu'n gryf yng ngrym cymuned - dw i wedi bod yn rhan o grŵp drama cynhwysol a chyfleuster cerdd ers blynyddoedd lawer ac wedi gweld manteision ein gweithgarwch grŵp a'n hymdeimlad o gymuned. Yn ogystal â hyn, dw i wedi cyflawni fy Ngwobr Dug Caeredin Efydd - gan ddangos nerth gwaith tîm a chyfathrebu, sgil bwysig sydd ei hangen i fod yn ymgeisydd llwyddiannus a deall y materion mae fy nghymuned yn eu hwynebu.

Materion fel rhai amgylcheddol, iechyd meddwl ac amrywiaeth o ran y cyfleoedd sydd ar gael.

Dw i eisiau bod yn Aelod SIC gan fy mod i’n credu yng ngrym cynrychiolaeth ddemocrataidd, pwysigrwydd ymgysylltu a chynrychioli barn fy nghymunedau lleol am y penderfyniadau mawr.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Laura Green