Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Levi Rees

Levi Rees

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Youth Cymru

Roedd Levi yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Levi Rees

Bywgraffiad

Roedd Levi yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol i gael dweud eu dweud
  • Awdurdodau lleol sy’n gweithredu amddifadu o ryddid o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014; dylid hysbysu pobl ifanc o’r pŵer sylfaenol hwn sydd gan awdurdodau lleol.
  • Gorchmynion gofal; a ddylai’r meini prawf/trothwy ar gyfer eu gwneud fod yn fwy llym.

Dyma'r tri maes yr wyf wedi'u dewis oherwydd mae ganddynt neges bersonol nid yn unig i bobl ifanc ledled Cymru ond maent yn berthnasol i fi hefyd.

Fel rhywun sydd wedi derbyn gofal ac sydd wedi bod drwy'r system ofal, credaf fod yr addewidion hyn yn bwysig. Fel plentyn sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol, hoffwn rannu fy mhrofiadau.

Hefyd, hoffwn siarad ar ran pobl ifanc oherwydd nid ydym wedi cael cyfle i siarad a faterion o'r fath ar y lefel hon hyd yma.

Digwyddiadau calendr: Levi Rees