Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Lleucu Haf Wiliam

Lleucu Haf Wiliam

Bro Morgannwg

Roedd Lleucu yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Lleucu Haf Wiliam

Bywgraffiad

Roedd Lleucu yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Pryderon am arlosgydd biomas
  • Gollwng Gwastraff Niwclear
  • Dyfodol addysg Cymraeg

Yn ddiweddar teimlais heb lais na phŵer pan bleidleisiodd y cyngor lleol o blaid caniatau llosgydd bio-mass. Wrth ddarganfod yr holl beryglon fyddai'r llosgydd yn ei beri i iechyd pobl ifanc teimlais awydd i wneud gwahaniaeth.

Rwy'n poeni’n gryf am ein amgylchedd ac am iechyd y bobl. Rhaid felly i herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i adael gwastraff niwclear o Loegr gael ei ollwng ger yr arfordir yn y môr y byddwn yn nofio ynddi.

Rwyf eisiau cynrychioli pobl ifanc ynglŷn â’u problemau ac rwyn awyddus i gael llais yn y penderfyniad dros gyfrwng yr ysgol gynradd newydd ar y Glannau yn y Barri. Mae hyn yn benderfyniad enfawr ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg ac ar addysg ein pobl ifanc.

Byddwn yn cynnal cyfarfodydd a phresenoldeb ar-lein er mwyn clywed safbwyntiau pobl ifanc yr etholaeth.

Byddaf hefyd yn darganfod beth sydd yn bwysig i bobl ifanc drwy ymgynghori yn drylwyr, a bod yn resymol ac yn gyson wrth eu cynrychioli.

Rwyf wedi dod i’r arfer o drafod a dadlau yn ogystal â gwrando drwy gymryd rhan yng nghlwb dadlau’r ysgol a hoffwn gael y cyfle i gynrychioli fy nghyfoedion a gwneud gwahaniaeth.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Lleucu Haf Wiliam