Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Maisy Evans

Maisy Evans

Torfaen

Roedd Maisy yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Rwy'n ddiolchgar am gael y platfform i rannu fy marn, a hyd yn oed yn fwy diolchgar am y cyfle i ddylanwadu ar newid go iawn ar y lefelau uchaf posibl. Gyda'r oedran pleidleisio wedi cael...

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n fraint, unwaith eto, i siarad gyda chi i gyd.

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

Braint ac anrhydedd yw cael siarad yn y cyfarfod pwyllgor yma ar y diwrnod tyngedfennol hwn. Mae'n wych eich gweld chi fel Aelodau o'r Cynulliad yma i ddathlu 30 mlynedd o Gonfensiwn y Ce...

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 20/11/2019

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 20/11/2019

Diolch yn fawr, Llywydd. Braint ac anrhydedd yw sefyll yn y Siambr ar y diwrnod tyngedfennol hwn, ac mae'n wych gweld Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Senedd Ieuenctid gyda'i gilydd ar dd...

Y Cyfarfod Llawn | 26/06/2019

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Maisy Evans

Bywgraffiad

Roedd Maisy yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Lleihau’r oed pleidleisio i undegchwech
  • System Ariannu Gwell i Ysgolion
  • Iechyd a Lles Pobl Ifanc

Rwy’n berson ifanc hyderus, uchelgeisiol a brwdfrydig sy'n awyddus i ehangu fy ngorwelion.

Credaf yn gryf y byddai’r cyfle i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn brofiad gwerthfawr tu hwnt.

Dyma gyfle unigryw i gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a chynnig syniadau i wella ein gwlad.

Fel aelod o'r Senedd Ieuenctid, byddaf yn ymdrechu i ddylanwadu ar newidiadau arwyddocaol sy’n ymwneud â pholisïau Cymreig, a gwella bywydau pob person ifanc yng Nghymru trwy addasu’r oedran a gewch chi pleidleisio, ceisio gwella systemau ariannu ysgolion a chanolbwyntio ar eich iechyd ac eich lles chi.

Os ydych chi'n freintiedig neu'n ddifreintiedig, yn fachgen neu'n ferch, yn 11 neu 17, sy'n siarad y Gymraeg neu beidio, mae eich bywydau chi yn flaenoriaeth i mi ac ein gwlad.

Credaf nad ydych chi, oedolion ifanc, yn derbyn y cyfleoedd euraidd yr ydych yn eich haeddu - a hoffech chi gael eich clywed? Hoffech chi fwy o lais? A hoffech chi weld newid sylweddol o fewn eich cymuned? Byddai’n bleser cael eich cynrychioli chi yn Nhorfaen - Ni, fydd y newid sydd rhaid i’w weld yng Nghymru heddiw.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Maisy Evans