Roedd Manon yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Sbwriel mewn
mannau cyhoeddus
Tlodi mislif
Iechyd meddwl y
glasoed
Rydw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd byddai'n
anrhydedd cynrychioli pobl ifanc Gorllewin Caerdydd a'u pryderon. Mae'n gyfle
anhygoel i gwrdd â phobl eraill sydd â'r un cymhelliant â mi i wella cymunedau
ledled Cymru. Byddwn i'n ymgynghori â phobl ifanc drwy arwain cynulliad misol i
bob blwyddyn yn fy ysgol lle gallai disgyblion bleidleisio ar yr hyn sydd
bwysicaf iddyn nhw. Bydd hyn yn sicrhau bod pob un o'm cyfoedion yn cael y
cyfle i ddweud beth sydd ar eu meddwl
Rydw i'n aelod o gyngor yr ysgol ac rydw i hefyd yn ddirprwy arweinydd grŵp gwrth-homoffobia, deuffobia a
thrawsffobia yn yr ysgol. Rydyn ni wedi gweithio gyda llawer o ysgolion ledled
Cymru i wella ymwybyddiaeth am y gymuned LGBT+. Rydw i hefyd yn cymryd rhan yn
y grŵp cydraddoldeb
rhwng y rhywiau yn yr ysgol. Rydw i'n siaradwr hyderus yn gyhoeddus, ac rydw i
hefyd yn wrandäwr da. Rydw i'n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac hefyd yn
dysgu Ffrangeg, Sbaeneg a Mandarin.
Mi fyddwn i'n aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rydw i'n credu bod
barn rhywun 11 i 18 oed yr un mor bwysig ag unrhyw aelod arall o gymdeithas.