Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Manon Clarke

Manon Clarke

Gorllewin Caerdydd

Roedd Manon yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Manon Clarke

Bywgraffiad

Roedd Manon yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Sbwriel mewn mannau cyhoeddus
  • Tlodi mislif
  • Iechyd meddwl y glasoed

Rydw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd byddai'n anrhydedd cynrychioli pobl ifanc Gorllewin Caerdydd a'u pryderon. Mae'n gyfle anhygoel i gwrdd â phobl eraill sydd â'r un cymhelliant â mi i wella cymunedau ledled Cymru. Byddwn i'n ymgynghori â phobl ifanc drwy arwain cynulliad misol i bob blwyddyn yn fy ysgol lle gallai disgyblion bleidleisio ar yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. Bydd hyn yn sicrhau bod pob un o'm cyfoedion yn cael y cyfle i ddweud beth sydd ar eu meddwl

Rydw i'n aelod o gyngor yr ysgol ac rydw i hefyd yn ddirprwy arweinydd grŵp gwrth-homoffobia, deuffobia a thrawsffobia yn yr ysgol. Rydyn ni wedi gweithio gyda llawer o ysgolion ledled Cymru i wella ymwybyddiaeth am y gymuned LGBT+. Rydw i hefyd yn cymryd rhan yn y grŵp cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn yr ysgol. Rydw i'n siaradwr hyderus yn gyhoeddus, ac rydw i hefyd yn wrandäwr da. Rydw i'n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac hefyd yn dysgu Ffrangeg, Sbaeneg a Mandarin.

Mi fyddwn i'n aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rydw i'n credu bod barn rhywun 11 i 18 oed yr un mor bwysig ag unrhyw aelod arall o gymdeithas.

Diolch.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Manon Clarke