Datganiad yr
Ymgeisydd: Rwy'n angerddol am ddefnyddio fy mhrofiadau personol i godi
ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o
fod mewn gofal. Mae'r system
gwasanaethau cymdeithasol wedi dylanwadu ar gwrs fy mywyd ac rwy'n deall yr
anfanteision a all rwystro cynnydd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod
mewn gofal.
Byddaf yn
cyfarfod yn rheolaidd â'r plant a’r bobl ifanc sy’n mynychu grwpiau Cyfranogiad
a gaiff eu hwyluso gan NYAS. Mae'r
grwpiau hyn yn cynnwys Plant a Phobl Ifanc o bob rhan o Gymru sydd wedi ymrwymo
i newid cadarnhaol, eu barn hwy fydd fy nylanwad.
Mae gennyf
ddealltwriaeth fanwl o sut y gall cyfreithiau sydd wedi'u hysgrifennu'n wael
arwain at niwed, camddehongli neu esgeulustod drwy hepgoriad. Drwy
anghyfiawnderau drwy gydol fy mywyd rwy'n cael fy ysgogi i sicrhau na ddylai
unrhyw blant a phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o fod mewn gofal orfod mynd
drwy'r un peth. Rwyf am gael effaith ar y newid hwnnw.
Byddwn yn
eiriolwr cryf dros gynrychioli plant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu dod o hyd
i'w llais eu hunain ac rwy'n wrandawr da. Rwyf wedi cwblhau hyfforddiant
Eiriolaeth Cymheiriaid a Mentora Cymheiriaid fydd, ynghyd â'm dewisiadau Safon
Uwch (Y Gyfraith, Cymdeithaseg a Hanes) yn gwella fy sgiliau i fod yn
gynrychiolydd cryf. Hefyd rwy'n aelod o Bright Sparks, y Grŵp Cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc
yng Ngaherdydd sydd â
phrofiad o fod mewn gofal.