Datganiad
Ymgeisydd: Helo. Fy enw i yw Ruben
Kelman ac rwy’n mynd i Ysgol Uwchradd Llanishen yng Nghaerdydd. Dros yr ychydig
flynyddoedd diwethaf, mae fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru a'r DU
wedi cynyddu, ac rydw i wedi sylweddoli cyn lleied o gynrychiolaeth a gaiff y
genhedlaeth iau. Dyna un o'r nifer o resymau yr wyf yn sefyll yn yr etholiad i
Senedd Ieuenctid Cymru. Un o'r prif faterion y byddwn yn canolbwyntio arno pe
bawn yn cael fy ethol fyddai tlodi ymhlith plant, gan fod 3 o bob 10 o bobl ifanc
yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae hynny'n ofnadwy ar sawl lefel. Rwyf wedi
clywed gan nifer o bobl ifanc yn fy ysgol pa mor anodd yw hi iddynt gael prydau
ysgol am ddim, ac mae hynny'n rhywbeth rydw i eisiau ei newid. Gallai un pryd y
dydd atal plentyn rhag llwgu. Mater enfawr arall ymysg pobl ifanc yw iechyd
meddwl. Mae'r pandemig wedi cael effeithiau hirdymor ar iechyd meddwl llawer o
bobl ifanc. O brofiad personol rwy'n gwybod faint y gall pethau fel cwnsela
helpu, ond rwyf hefyd yn gwybod pa mor anodd yw cael mynediad i'r gwasanaethau
hyn. Rwyf wedi ymgyrchu ers amser maith dros gynnig gwasanaethau iechyd meddwl
yn gyffredinol yn ysgolion Cymru. Pleidleisiwch dros Ruben Kelman ar gyfer
Gogledd Caerdydd. Diolch