Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Sonia Marwaha

Sonia Marwaha

Gorllewin Casnewydd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Amgylchedd trefol mwy gwyrdd.
  • Iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc
  • Tai ecogyfeillgar

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Sonia Marwaha

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Rwy'n gwneud cais i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gwrdd â phobl ifanc o'r un anian sydd eisiau gwella'r byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Tra bod ein llywodraeth yn parhau i gael trafferth a cholli ymddiriedaeth, nid yn unig y gall pobl ifanc weld beth yw’r gwir broblemau heddiw, ond gweld hefyd beth fydd problemau yfory - rydym am i'n lleisiau gael eu clywed.

Fel aelod o SIC, gobeithiaf gynnwys pobl ifanc o bob cefndir mewn materion cyfoes a materion yn y dyfodol drwy wneud iechyd meddwl a chorfforol dinasyddion Cymru yn y dyfodol yn brif flaenoriaeth, wrth i broblemau fel cynhesu byd-eang ddod yn fwy amlwg. Er mwyn gwrthsefyll llygredd mewn ardaloedd trefol, byddaf yn hyrwyddo pwysigrwydd tyfu coed ac adeiladu tai gwyrdd, cynaliadwy. Byddaf yn ceisio cynyddu nifer y gweithgareddau allgyrsiol a chlybiau ieuenctid sydd ar gael i bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghasnewydd ac yng Nghymru o gymharu â phlant iau. Mae Casnewydd yn falch o fod yr ail ddinas fwyaf amrywiol yng Nghymru, ond nid oes cyfleusterau yma i leihau gwahaniaethu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith pobl ifanc.

Rwy’n credu fy mod yn ymgeisydd teilwng gan fy mod wedi siarad â phobl sy’n ei chael hi’n anodd i ymdopi yng Nghymru, ac rwyf wedi codi dros £1000 at achosion amgylcheddol a dyngarol. Rwyf hefyd yn mynd i brotestiadau yn rheolaidd sy’n galw am gyfiawnder i ddioddefwyr creulondeb yr heddlu, phrotestiadau o ran hiliaeth a ffoaduriaid.

Diolch

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Sonia Marwaha