Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Stella Orrin

Stella Orrin

Aberafan

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Newid hinsawdd
  • Cyfle cyfartal ym maes chwaraeon
  • Iechyd meddwl

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Stella Orrin

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Hoffwn i fod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru gan fy mod i’n credu fy mod i’n ac yn ddigon hyderus i'ch cynrychioli chi a'ch ardal leol i'r safon uchaf. Dw i'n aelod o’m grŵp streic hinsawdd lleol, y cyngor ieuenctid ar tîm rygbi. Dw i'n aelod gweithgar o’m cymuned a dw i'n deall pwysigrwydd llais pobl ifanc.

Rydyn ni’n wynebu mater mwyaf ein cenhedlaeth, a dyw'r rhai sydd mewn grym ddim yn gwneud digon. Ers cyfnod rhy hir, mae'r bai am newid hinsawdd wedi'i symud i bobl a theuluoedd fel ni, pobl normal sy'n gweithio a myfyrwyr. Os dw i’n cael fy ethol, bydda’ i’n gwneud popeth yn fy ngallu i ddwyn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r euogion yn atebol am eu gweithredoedd, fel dw i wedi bod yn lleol hyd yn hyn.

I lawer o bobl fel fi, mae chwaraeon yn rhan hanfodol o fywyd. Mae'n fy nghadw i'n hapus ac yn iach, yn gorfforol ac yn feddyliol. Pe bawn i'n cael fy ethol, byddwn i’n sicrhau bod ein hysgolion lleol a'r cyngor yn dyrannu cyllid i chwaraeon allgyrsiol a thimau lleol beth bynnag yw eu rhyw, eu hethnigrwydd a’u galluoedd.

Mae'n bryd i lais pobl ifanc Cymru gael ei gymryd o ddifrif, dw i'n teimlo'n gryf mai fi yw'r ymgeisydd i weithio ochr yn ochr â chi.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Stella Orrin