Datganiad
Ymgeisydd: Fy enw i yw Zjackaria Meah a dw i am fod yn llais y bobl ifanc nid
yn unig yn fy Etholaeth yng Nghastell-nedd, ond dros weddill Cymru. Dw i’n
siaradwr cyhoeddus hyderus ac mae pobl ifanc Cymru yn bwysig i mi.
Byddaf yn
cynrychioli barn a safbwyntiau pobl ifanc yn fy ardal trwy gynnal gwasanaethau,
cynnal arolygon a chyfathrebu trwy’r cyfryngau cymdeithasol rydyn ni’n teimlo'n
gyfforddus yn eu defnyddio fel TikTok. Mae TikTok yn blatfform cyfryngau
cymdeithasol y gallwch ei ddefnyddio i hysbysu pobl ifanc Cymru.
Dw i wedi bod yn
aelod o Senedd yr Ysgol ers dechrau Blwyddyn 7, gan sicrhau bod barn fy
nghyd-ddisgyblion yn cael ei chodi.
Dw i wedi bod yn
Wirfoddolwr Plant yng Nghymru yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i
sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn oedd orau i Blant a Phobl Ifanc Cymru.
Dw i hefyd wedi
bod yn aelod o Banel Cynghori’r Comisiynydd Plant ers bron i ddwy flynedd yn
cynghori’r Comisiynydd a’i thîm ar yr hyn y mae’r bobl ifanc yn ei gredu ynddo.
Mae pleidlais i
mi yn bleidlais a fydd yn helpu i newid dyfodol Pobl Ifanc Cymru.