Roedd yr Aelod hwn yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i Marwth 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Cyngor ar yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau i helpu i gael mynediad at waith a phrofiad gwaith
- Cydraddoldeb mynediad at addysg uwch a phrentisiaethau i bobl ifanc fel ceiswyr lloches.
- Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, a dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc yng Nghymru.
Rwy'n mynd i'r coleg, lle rwy'n astudio iechyd a gofal cymdeithasol. Daeth fy nheulu a fi i Gymru fel ffoaduriaid ddwy flynedd yn ôl. Fe'm ganwyd yn Syria, ac fe symudais i Irac cyn dod i'r DU.
Cwrdeg yw fy iaith gyntaf ac rwy'n siarad Arabeg hefyd. Dechreuais ddysgu Saesneg yn Ysgol y Grango, lle sefais arholiadau TGAU y llynedd. Mae addysg yn bwysig, ac rwy'n gobeithio dilyn gyrfa mewn meddygaeth, efallai fel bydwraig. Rwyf wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth, ac rwyf hefyd yn mwynhau arlunio, paentio a gwneud pethau. Yn ogystal â threulio amser gyda fy ffrindiau, rwy'n hoffi mynychu Fforwm Cyfranogi TGP Cymru, lle rwy'n dysgu sut mae'r llywodraeth yn gweithio yng Nghymru.
Byddaf yn dysgu rhagor fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a byddaf yn manteisio ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o sut beth yw bywyd fel ceisiwr lloches ifanc, gan roi llais i bobl ifanc eraill hefyd.