Roedd Evan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Cefnogaeth i
wasanaethau ieuenctid
- Gwell system ariannu
i ysgolion
- Mynd i'r afael
â materion o ran gwahaniaethu a hiliaeth
Fy enw i yw Angel Ezeadum ac rwy'n 13 oed. Rwy'n ferch ifanc ddu sy'n
gwneud pob ymdrech i ddringo'r ysgol o'r gwaelod i gyrraedd y brig. Carwn gael
fy nghefnogi gan Gyngor Hil Cymru ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd
rwy'n credu y gallaf fod yn llais i bobl ifanc o gymunedau pobl dduon a
lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru!
O ran fy mhrofiad, rwy'n gweithio gyda Chyngor Ieuenctid Cymru, sydd wedi
fy nghaniatáu i weithio gyda phobl o gefndiroedd amrywiol a gwahanol oedrannau.
Hefyd, mae gen i ddiddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth ac rwy'n ymddiddori mewn
materion cyfoes sy'n effeithio ar ein byd.
Rwy'n berson ifanc uchelgeisiol, hyderus a brwdfrydig sydd wrth fy modd yn
gwneud i bobl eraill wenu! Rwy'n credu'n gryf y byddai dod yn aelod o Senedd
Ieuenctid Cymru yn gyfle arbennig ac unigryw i gwrdd â phobl newydd, i ddysgu
pethau newydd ac i wella ein gwlad yn y ffyrdd gorau posibl ar gyfer y to iau
a'n dyfodol.
Pe bawn yn cael fy ethol, byddwn yn defnyddio arolygon a holiaduron ar-lein
i alluogi pobl ifanc i roi eu hadborth, ac yn bwysicaf oll i fynegi eu barn.
Byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc o bob cefndir ar lwyfannau amrywiol ac yn
cynnal cyfarfodydd yn eu cymunedau i alluogi fy nghyfoedion i ddweud eu dweud.
P'un a ydynt yn freintiedig neu'n ddifreintiedig, yn ddynion neu'n fenywod,
yn 11 neu'n 17 oed, mae eu bywydau'n bwysig a nhw fydd fy ffocws.
Dewiswch fi i gynrychioli pawb.
Dewiswch fi i roi llais i bobl sydd heb lais.
Deiswch fi i'ch cynrychioli chi.