Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Angel Ezeadum

Angel Ezeadum

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Race Council Cymru

Roedd Angel yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/07/2020

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/07/2020

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/07/2020

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/07/2020

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/07/2020

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Angel Ezeadum

Bywgraffiad

Roedd Evan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cefnogaeth i wasanaethau ieuenctid
  • Gwell system ariannu i ysgolion
  • Mynd i'r afael â materion o ran gwahaniaethu a hiliaeth

Fy enw i yw Angel Ezeadum ac rwy'n 13 oed. Rwy'n ferch ifanc ddu sy'n gwneud pob ymdrech i ddringo'r ysgol o'r gwaelod i gyrraedd y brig. Carwn gael fy nghefnogi gan Gyngor Hil Cymru ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwy'n credu y gallaf fod yn llais i bobl ifanc o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru!

O ran fy mhrofiad, rwy'n gweithio gyda Chyngor Ieuenctid Cymru, sydd wedi fy nghaniatáu i weithio gyda phobl o gefndiroedd amrywiol a gwahanol oedrannau. Hefyd, mae gen i ddiddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth ac rwy'n ymddiddori mewn materion cyfoes sy'n effeithio ar ein byd.

Rwy'n berson ifanc uchelgeisiol, hyderus a brwdfrydig sydd wrth fy modd yn gwneud i bobl eraill wenu! Rwy'n credu'n gryf y byddai dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn gyfle arbennig ac unigryw i gwrdd â phobl newydd, i ddysgu pethau newydd ac i wella ein gwlad yn y ffyrdd gorau posibl ar gyfer y to iau a'n dyfodol.

Pe bawn yn cael fy ethol, byddwn yn defnyddio arolygon a holiaduron ar-lein i alluogi pobl ifanc i roi eu hadborth, ac yn bwysicaf oll i fynegi eu barn. Byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc o bob cefndir ar lwyfannau amrywiol ac yn cynnal cyfarfodydd yn eu cymunedau i alluogi fy nghyfoedion i ddweud eu dweud.

P'un a ydynt yn freintiedig neu'n ddifreintiedig, yn ddynion neu'n fenywod, yn 11 neu'n 17 oed, mae eu bywydau'n bwysig a nhw fydd fy ffocws.

Dewiswch fi i gynrychioli pawb.

Dewiswch fi i roi llais i bobl sydd heb lais.

Deiswch fi i'ch cynrychioli chi.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Angel Ezeadum