Datganiad
Ymgeisydd: Fy enw i yw Bisan Ibrahim.
Rwy’n bymtheg mlwydd oed.
Rydw i’n sefyll
yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwy’n berson ifanc hyderus ac angerddol
sy’n teimlo’n gyffrous i gael i cyfle i gynrychioli safbwyntiau pobl ifanc.
Mae gen i
ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, ac rydw i am fod yn aelod o’r Senedd
Ieuenctid er mwyn helpu i ddatblygu dyfodol gwell i bawb ac i wneud gwahaniaeth
o bwys.
Mae’n bwysig iawn
i bobl ifanc gael llais ar lefel genedlaethol, a byddai cynrychioli pobl ifanc
yn fy ardal yn fraint.