Roedd Caleb yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Annibyniaeth i
Gymru
Glanweithdra
Menywod am ddim
Ail Refferendwm
Brexit
Rwyf am fod yn aelod o'r Senedd Ieuenctid oherwydd bod gwleidyddiaeth yn
rhan mor bwysig o'r gymdeithas. Rwy'n teimlo fel bod angen hybu hyn ymhlith
pobl ifanc Cymru, yn enwedig yng nghefn gwlad. Mae ein llais ni yr un mor
bwysig a phawb arall ac er nad ydyn ni yn medru pledleisio, rwy'n gobeithio
bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos. Yn y genhedlaeth yma, mae gwefannau
cymdeithasol yn hanfodol i'r ffordd rydym ni'n cyfathrebu, byddaf yn sicrhau
bod grwpiau a fforymau gwahanol i bobl ifanc Ceredigion lleisio ei barn. Byddaf
hefyd yn cynnal cyfarfodydd a sgyrsiau misol mewn wahanol lefydd yng
Ngheredigion er mwyn clywed llais pob un.
Fe ddylai pobl ifanc Ceredigion bledleisio amdanaf oherwydd byddaf yn
brwydro am rai o bynciau llosg Cymru modern ac yn ymladd gyda hawliau'r
ieuenctid mewn golwg pob tro. Mae fy mhersonoliaeth yn un cadarn ac hyderus
sy'n barod i ymladd fy nghornel bob tro. Rwy'n aelod ffyddlon o'r mudiad
ffermwyr ifanc ac yn cystadlu mewn cystadleuthau siarad cyhoeddus ar lefelau
Ceredigion a Chymru ac felly wedi ennill profiad o siarad yn gyhoeddus gyda
nifer o bobl.