Datganiad yr
Ymgeisydd: Fel cadeirydd presennol fforwm ieuenctid CFfI Cymru, rwy'n angerddol
am godi lleisiau pobl ifanc, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Fel fforwm i
bobl ifanc, a gaiff ei redeg gan bobl ifanc, gwyddom mai un o'n prif faterion
yw'r diffyg cyfleusterau a seilwaith rydym ni fel pobl ifanc mewn ardal wledig
yn eu hwynebu, gan gyfyngu ar ein cyfleoedd am ddyfodol mwy disglair. Mudiad
ffermio ydyn ni, a gallwn sicrhau Cymru gynaliadwy drwy addasu dulliau ffermio
traddodiadol a chyflwyno syniadau arloesol newydd i fynd i'r afael â newid yn
yr hinsawdd. Mae iechyd meddwl yn bwnc pwysig i bobl ifanc heddiw ac rydym yn
ymdrechu fel sefydliad i ddarparu adnoddau digonol i gefnogi pobl ifanc a allai
fod yn ei chael yn anodd. Fel aelodau o CFfI, mae gennym nifer o briodoleddau
cadarnhaol fel sgiliau siarad cyhoeddus a thrafod yn ogystal â bod yn bobl
ifanc foesegol ac empathetig, felly pwy allai fod yn well ar gyfer y swydd?