Roedd Chloe yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy enw i yw Chloe, ac rwy'n dod o Dorfaen. Rwy'n berson ifanc sydd wedi bod
mewn gofal.
Rwyf wedi gwneud cais i fod yn aelod o'r Senedd Ieuenctid gan fy mod i'n
teimlo ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru a'u bod
yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar bethau pwysig.
Byddwn hefyd yn mwynhau cwrdd â phobl newydd a chydweithio â nhw. Rwy'n
credu bod gennyf brofiad a sgiliau da hefyd (gweler isod).
Rwyf mewn gofal, felly mae hynny'n golygu fy mod yn deall beth ydyw ac i
wneud yn siŵr
bod y Senedd Ieuenctid yn gweithio ar bethau ynghylch gofal er mwyn ei wneud yn
well yng Nghymru.
Rwyf hefyd yn aelod o Fforwm Ieuenctid Torfaen, felly rwyf wedi arfer
gweithio gyda phobl ifanc eraill ar faterion, a gallu cymryd rhan mewn
trafodaethau a sgyrsiau am bethau a digwyddiadau.
Byddwn i'n gweithio'n galed er mwyn mynd i bob digwyddiad a'i gymryd o
ddifri. Rwyf hefyd yn siarad Cymraeg, sy'n bwysig yn fy marn i.