Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Chloe Giles

Chloe Giles

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Lleisiau o Ofal Cymru

Roedd Chloe yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Chloe Giles

Bywgraffiad

Roedd Chloe yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy enw i yw Chloe, ac rwy'n dod o Dorfaen. Rwy'n berson ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

Rwyf wedi gwneud cais i fod yn aelod o'r Senedd Ieuenctid gan fy mod i'n teimlo ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru a'u bod yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar bethau pwysig.

Byddwn hefyd yn mwynhau cwrdd â phobl newydd a chydweithio â nhw. Rwy'n credu bod gennyf brofiad a sgiliau da hefyd (gweler isod).

Rwyf mewn gofal, felly mae hynny'n golygu fy mod yn deall beth ydyw ac i wneud yn siŵr bod y Senedd Ieuenctid yn gweithio ar bethau ynghylch gofal er mwyn ei wneud yn well yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn aelod o Fforwm Ieuenctid Torfaen, felly rwyf wedi arfer gweithio gyda phobl ifanc eraill ar faterion, a gallu cymryd rhan mewn trafodaethau a sgyrsiau am bethau a digwyddiadau.

Byddwn i'n gweithio'n galed er mwyn mynd i bob digwyddiad a'i gymryd o ddifri. Rwyf hefyd yn siarad Cymraeg, sy'n bwysig yn fy marn i.

Digwyddiadau calendr: Chloe Giles