Datganiad Ymgeisydd: Helo, Elliott ydw i, rydw i wedi bod mewn gofal maeth
a gofal preswyl. Rwy'n angerddol am hawliau plant ac yn benodol plant mewn
gofal. Mae goresgyn rhwystrau rwyf wedi eu hwynebu oherwydd fy
niwrowahaniaethau wedi fy ngwneud i pwy ydw i heddiw. Mae fy niddordebau yn
cynnwys gwirfoddoli yn fy nghanolfan gymunedol leol, chwarae'r drymiau a'r
piano, ac rwy'n llysgennad ac yn un o aelodau ieuengaf grŵp cynghori VFCC. Dwi wrth fy modd gyda
gwyddoniaeth ac unrhyw beth i wneud gyda’r meddwl a'r corff, a hoffen i fod yn athro bioleg. Rwy'n teimlo'n
angerddol iawn am addysgu hunan-eiriolaeth yn y system ofal. Rwy'n berson
gonest a ffyddlon.
Y materion allweddol i mi yw'r cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc
mewn gofal, cyllid a chymorth a ddarperir gan wasanaethau iechyd meddwl a
niwroamrywiol a gwella dealltwriaeth o anghenion addysgol arbennig ac iechyd
meddwl mewn ysgolion.