Roedd Finlay yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Hawliau
cyfartal
Addysg rhyw
Iechyd meddwl
Rydw i'n credu y byddai bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn gyfle
anhygoel i mi dalu yn ôl i fy nghymuned. Byddai'n caniatáu imi fod y newid yr
hoffwn i a llawer o bobl ifanc eraill ei weld yng Nghymru. Byddwn i'n dweud fy
mod yn llawn safbwyntiau ar bynciau megis iechyd meddwl, hawliau cyfartal (yn
enwedig yn ymwneud â hiliaeth, rhywiaeth a homoffobia), ac addysg/iechyd
rhywiol. Er mwyn sicrhau bod llais pob person ifanc yn cael ei glywed a'i
gynrychioli, mi fydda i'n cynnal trafodaethau yn fy ysgol, clwb athletau a
sefydliad gwirfoddoli lle bydda i'n gofyn i'm cyfoedion am unrhyw newidiadau y
bydden nhw'n hoffi eu gweld yng Nghymru.
Mae croeso i bobl ifanc hefyd godi unrhyw faterion gyda mi drwy anfon neges
ar fy nghyfrif facebook neu twitter. Rydw i'n credu y dylai pobl bleidleisio
drosta i oherwydd ni waeth beth yw fy marn i ar safbwyntiau pobl, mi fydda i'n
parchu eu safbwynt ac yn ystyried eu dadl serch hynny. Rydw i'n credu bod gen i
y sgiliau pobl a'r sgiliau cyfathrebu, ynghyd â'r wybodaeth gymdeithasol i
ganiatáu imi ragori yn y rôl hon. Os caf fy ethol, mi fydda i'n gwneud popeth o
fewn fy ngallu i helpu i droi Cymru yn lle mwy cyfartal ac agored.