Roedd Gwion yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Prentisiaethau/Swyddi
i bobl ifanc
- Yr Iaith
Gymraeg mewn ysgolion
- Trafnidiaeth
Ysgol Diogel a Safonol
Dwi eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn cynrychioli barn
ieuenctid Cymru. Yn ogystal a hyn, dwi eisiau eu cynrychioli er mwyn i nhw gael
llais teg yn newisiadau'r Senedd Ieuenctid. Mi fyddai'n cynnal cyfarfodydd
cyson gyda etholwyr, yn ogystal a holiaduron ar-lein er mwyn clywed eu llais.
Ar ôl clywed eu barn, mi fyddai'n brwydro dros eu llais yn y Senedd Ieuenctid.
Dylsai pobl ifanc fy etholaeth bleidleisio drostai gan fy mod gyda
dealltwriaeth mawr o wleidyddiaeth a sut mae'r Senedd yn gweithio. Hefyd, dwi
wedi cynrychioli'r ysgol yng Nghyngor Ieuenctid Caerdydd, yn ogystal a
Chynhadledd y Gymanwlad.
Yn olaf, rydw i wedi gwneud prosiectau helpu'r gymuned LGBTQ+, yn cynnwys
prosiect ffilm Iris, a prosiect ysgolion De Cymru. Rwy'n ddinesydd weithgar, ac
rwy'n cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn y gymuned, fel gwirddfodoli yn
Ambiwlans St Ioan, a chodi arian i elusen. Dwi’n gwneud cymorth cyntaf yn
rheolaidd, gan wirddfoddoli yn yr athletau, gwyliau bwyd a mwy. Yn ogystal a
hyn, dwi wedi codi arian ar gyfer nifer o elusennau, yn yr ysgol, ac yn
allgyrsiol.
Yn olaf, dwi'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd gwleidyddol, ac bydd hyn yn
fy elwa'n fawr.