Datganiad
Ymgeisydd: Helo, Hermione ydw i, dwi'n byw ar Benrhyn Gŵyr. Mae fy nhad yn Brydeiniwr o Sri Lanka,
ac mae fy mam yn Gymraes. Dw i'n Gymraes, ac yn caru Cymru. Rwy'n dysgu siarad
Cymraeg.
Mae cael barn fel
person ifanc yn bwysig iawn. Mae'n hanfodol bod lleisiau fy nghenhedlaeth yn
cael eu clywed yn trafod y materion sy'n bwysig. Rwyf am ddeall sut mae
gwleidyddiaeth yn llywio ein bywydau. A sut y gallwn ni, fel pobl ifanc, lywio
gwleidyddiaeth. Pobl ifanc yw'r modd i newid y dyfodol drwy ddeall y gorffennol
a'r presennol. Mae fy nhri mater yn ymwneud â'r amgylchedd, addysg mewn
pandemig a sut y gallwn ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gadarnhaol er mwyn
iechyd. Edrychaf ymlaen at ddysgu am faterion aelodau eraill a'u cefnogi; a
chynrychioli pobl ifanc Cymru.
Er mwyn codi
ymwybyddiaeth am Senedd Ieuenctid Cymru a chynrychioli'r materion, byddwn yn
cynnal arolygon gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, siarad mewn gwasanaethau
ysgol, siarad â'm AS lleol, a darllen ymchwil.
O brofiad yn y
celfyddydau perfformio, ac fel cynrychiolydd ysgol a blwyddyn rwyf wedi
meithrin sgiliau mewn siarad cyhoeddus, negodi, trafod, gwrando, arweinyddiaeth
a gwaith tîm. Rwy'n awyddus i ddatblygu'r sgiliau hyn ymhellach.
Diolch am
ystyried fy nghais.