Roedd Jonathan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Rhyddid
Crefyddol yng Nghymru
- Hyrwyddo'r
Celfyddydau yng Nghymru
- Trosedd
a chyfiawnder yng Nghymru
Helo. Fy enw i yw Jonathan Powell, rwy'n 16 oed ac yn dwlu ar fy ngwlad!
Rwy’n awyddus i weld Cymru'n ffynnu fel gwlad, gwlad sy'n gwrando ar ei
dinasyddion ac yn ystyried eu cyngor. Un peth rwy’n angerddol amdani yw'r
celfyddydau; cerddoriaeth, perfformio ... Popeth rwy’n dwlu arno. Yn anffodus
yng Nghymru, mae gwasanaethau cerdd a ariennir gan y wlad yn lleihau ac mae hyn
yn drist i mi.
Rydym wedi bod yn wlad sy'n enwog am gerddoriaeth a diwylliant erioed, ac
rwy’n benderfynol o sicrhau bod y duedd enwog hon yn parhau o genhedlaeth i
genhedlaeth.
Fel Cristion, mae rhyddid crefyddol yn bwnc sy’n agos at fy nghalon. Mae'n
ymddangos ein bod ni fel gwlad yn cyfyngu ar lawer o feysydd rhyddid i lefaru,
ac rwy’n angerddol ynghylch sefyll i sicrhau ein bod ni fel gwlad yn parhau i
ymfalchïo yn ein rhyddid a'n gwerthoedd, fel y gwnaethom yn y gorffennol.
Fel unigolyn, rwy'n siaradwr brwd sy'n mwynhau cymryd rhan. Rwy'n hyderus
ac yn siaradwr Cymraeg ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gadw ein hiaith yn fyw.
Rwyf yn gobeithio y byddwch chi'n pleidleisio drosof i, er mwyn i mi gael eich
cynrychioli chi a'n gwlad wych!