Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Jonathan Powell

Jonathan Powell

Wrecsam

Roedd Jonathan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Jonathan Powell

Bywgraffiad

Roedd Jonathan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Rhyddid Crefyddol yng Nghymru
  • Hyrwyddo'r Celfyddydau yng Nghymru
  • Trosedd a chyfiawnder yng Nghymru

Helo. Fy enw i yw Jonathan Powell, rwy'n 16 oed ac yn dwlu ar fy ngwlad!

Rwy’n awyddus i weld Cymru'n ffynnu fel gwlad, gwlad sy'n gwrando ar ei dinasyddion ac yn ystyried eu cyngor. Un peth rwy’n angerddol amdani yw'r celfyddydau; cerddoriaeth, perfformio ... Popeth rwy’n dwlu arno. Yn anffodus yng Nghymru, mae gwasanaethau cerdd a ariennir gan y wlad yn lleihau ac mae hyn yn drist i mi.

Rydym wedi bod yn wlad sy'n enwog am gerddoriaeth a diwylliant erioed, ac rwy’n benderfynol o sicrhau bod y duedd enwog hon yn parhau o genhedlaeth i genhedlaeth.

Fel Cristion, mae rhyddid crefyddol yn bwnc sy’n agos at fy nghalon. Mae'n ymddangos ein bod ni fel gwlad yn cyfyngu ar lawer o feysydd rhyddid i lefaru, ac rwy’n angerddol ynghylch sefyll i sicrhau ein bod ni fel gwlad yn parhau i ymfalchïo yn ein rhyddid a'n gwerthoedd, fel y gwnaethom yn y gorffennol.

Fel unigolyn, rwy'n siaradwr brwd sy'n mwynhau cymryd rhan. Rwy'n hyderus ac yn siaradwr Cymraeg ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gadw ein hiaith yn fyw. Rwyf yn gobeithio y byddwch chi'n pleidleisio drosof i, er mwyn i mi gael eich cynrychioli chi a'n gwlad wych!

Digwyddiadau calendr: Jonathan Powell