Datganiad
ymgeisydd: Hoffwn i fod yn Aelod o'r Senedd Ieuenctid i roi llais i ni fel pobl
ifanc. Os dw i’n cael fy newis i'ch cynrychioli, bydda i’n dosbarthu gwybodaeth
drwy ysgolion ac e-byst, yn cysylltu â chi ac yn gwrando arnoch chi drwy
e-byst, ffurflenni a chyfarfodydd rhithwir. Mae eich llais yn hanfodol. Bydda
i’n sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed fel bod pobl ifanc wrth wraidd
penderfyniadau.
Dw i'n
gwirfoddoli fel arweinydd ifanc ar gyfer grŵp Sgowtiaid lleol. Dw i'n defnyddio
sgiliau cydweithredu a threfnu i helpu i drefnu a chynnal sesiynau. Dw i wrth
fy modd fel arweinydd ifanc, mae cyfleoedd i ysbrydoli'r dyfodol, addysgu
sgiliau bywyd ac annog iechyd meddwl gwell.
Galla i rannu'r profiadau hyn ar raddfa fwy drwy'r Senedd Ieuenctid, gan
roi cyfleoedd i fwy o bobl ifanc.
Dw i'n siaradwr
Cymraeg sy'n angerddol am gydraddoldeb. Byddwn i’n falch o gynrychioli'r ardal
leol a thynnu sylw at eich materion neu eich pryderon. Dw i'n berson chwaraeon
brwd ac yn awyddus i gael fy herio. Dw i'n rhoi 100 y cant i bopeth dw i'n ei
wneud. Yn ddiweddar, cwblheais Carten, taith feicio 108 milltir o Gaerdydd i
Ddinbych-y-pysgod. Mae hyn yn dangos fy mod i'n dyfalbarhau ac yn barod i
wynebu heriau. Dw i'n credu y byddai fy meddylfryd yn fy helpu i fod yn Aelod
Senedd da.