Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Maddie Mai Malpas

Maddie Mai Malpas

Islwyn

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Llesiant meddyliol
  • Cyfleoedd corfforol i bawb
  • Cydraddoldeb

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Maddie Mai Malpas

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Hoffwn i fod yn Aelod o'r Senedd Ieuenctid i roi llais i ni fel pobl ifanc. Os dw i’n cael fy newis i'ch cynrychioli, bydda i’n dosbarthu gwybodaeth drwy ysgolion ac e-byst, yn cysylltu â chi ac yn gwrando arnoch chi drwy e-byst, ffurflenni a chyfarfodydd rhithwir. Mae eich llais yn hanfodol. Bydda i’n sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed fel bod pobl ifanc wrth wraidd penderfyniadau.

Dw i'n gwirfoddoli fel arweinydd ifanc ar gyfer grŵp Sgowtiaid lleol. Dw i'n defnyddio sgiliau cydweithredu a threfnu i helpu i drefnu a chynnal sesiynau. Dw i wrth fy modd fel arweinydd ifanc, mae cyfleoedd i ysbrydoli'r dyfodol, addysgu sgiliau bywyd ac annog iechyd meddwl gwell.  Galla i rannu'r profiadau hyn ar raddfa fwy drwy'r Senedd Ieuenctid, gan roi cyfleoedd i fwy o bobl ifanc.

Dw i'n siaradwr Cymraeg sy'n angerddol am gydraddoldeb. Byddwn i’n falch o gynrychioli'r ardal leol a thynnu sylw at eich materion neu eich pryderon. Dw i'n berson chwaraeon brwd ac yn awyddus i gael fy herio. Dw i'n rhoi 100 y cant i bopeth dw i'n ei wneud. Yn ddiweddar, cwblheais Carten, taith feicio 108 milltir o Gaerdydd i Ddinbych-y-pysgod. Mae hyn yn dangos fy mod i'n dyfalbarhau ac yn barod i wynebu heriau. Dw i'n credu y byddai fy meddylfryd yn fy helpu i fod yn Aelod Senedd da.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Maddie Mai Malpas