Roedd Poppy yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei datganiad
pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Gofalu am y GIG
Ein hamgylchedd
Yr iaith Gymraeg
Datganiad
Ymgeisydd: Helo, fy enw i yw Poppy Jones, ac rwyf yn ddisgybl yn chweched
dosbarth yn Ysgol Syr Hugh Owen. Rwyf yn credu’n angerddol mewn gwleidyddiaeth
ac yn teimlo fy mod a’r sgiliau i allu cynrychioli fy ardal yn y Senedd yng
Nghaerdydd. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn addysg, yr amgylchedd a’r GIG,
pethau sydd yn bwysig iawn i ni fel pobl ifanc. Os fuaswn yn cael fy ethol
fuaswn yn mynd ati yn syth i greu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol fel Trydar ac
Instagram lle buasech yn gallu cysylltu hefo fi i rhannu erthyglau a lluniau.
Rwyf yn berson
gyda meddwl agored ac yn hoff o wrando ar syniadau pobl eraill. Credaf fod yr
hyder a’r sgiliau cyfathrebu gennyf i mi allu lleisio fy marn a chael fy neges
drosodd. Buasai’n anrhydedd enfawr cael cynrychioli Ysgol Syr Hugh Owen ac
Arfon yn y Senedd yng Nghaerdydd. Mae Cymru a’r byd yn wynebu heriau enfawr yn
y dyfodol a buaswn yn hoffi gallu cyfrannu i ddatrys rhai o’r heriau hyn ac i
gael pobl i glywed llais pobl ifanc Arfon. Oherwydd yr uchod, buasai’n fraint
o’r mwyaf pe fuasech yn penderfynu pleidleisio i mi.