Roedd Roan yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei ddatganiad
pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Gwella
cymorth iechyd meddwl
- Cyfle cyfartal i bob plentyn
- Torri
trethi i deuluoedd sy'n gweithio
Datganiad
ymgeisydd: Rwy’n sefyll i gael fy ethol i Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn
sicrhau bod pob person ifanc yn fy etholaeth yn teimlo bod eu llais yn gallu cael
eu clywed ar y llwyfan cenedlaethol. Credaf yn aml mai'r materion mwyaf yn ein
cymdeithas yw'r rhai nad ydynt yn cael eu trafod, a bod y broblem honno, yn fy
marn i, yn deillio o’r ffaith nad yw’r gwleidyddion sy’n rhedeg ein gwlad yn
talu sylw i bobl ifanc heddiw. Fy amcan yw sicrhau, waeth beth fo'ch hil, rhywioldeb, crefydd, hunaniaeth o ran rhywedd,
neu gefndir cymdeithasol, eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cynrychioli
gan fy ymgyrch.
Rwyf innau’n dod o gefndir dosbarth gweithiol, ac mae gwerthoedd
gwaith caled a’r ysbryd cymunedol y mae Cymru’n ymfalchïo ynddo yn ganolog i’m
credoau fy hun. Hoffwn fod yn llais i'r rhai sy'n union fel fi; plant y rhieni
sy'n gweithio'n galed i yrru'r genedl hon yn ei blaen. Dyma un o'r nifer o
resymau pam fy mod i’n gynrychiolydd delfrydol i gynrychioli eich buddiannau yn
y Senedd.
Os ydw i’n cael
fy ethol, bydd fy llwyfan yn canolbwyntio'n bennaf ar wella bywydau pobl ifanc
yng Nghymru, gan gynnwys mynediad gwell at ofal iechyd, darparu mwy o gyfleoedd
i lwyddo, a lobïo'r llywodraeth i dorri costau byw i deuluoedd ar incwm cyfyngedig.