Datganiad yr
ymgeisydd: Hoffwn fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwy’n teimlo y
gallwn ymgymryd yn effeithiol â’r gwaith o gynrychioli’r rhai o’m cwmpas, sydd
wedi bod mewn sefyllfa debyg i mi. Teimlaf y gallwn wneud hyn gan fy mod i wedi
bod yn mynd i Roots Foundation Wales am gyfnod maith. Yn ystod y cyfnod hwn,
rwyf wedi creu perthynas gref, ddibynadwy ag eraill yr un oed â mi, a staff,
sydd wedi bod drwy’r system gofal neu sydd, fel fi, yn y system honno. Rwy’n
hyderus y gallaf wrando ar yr hyn sydd gan y rhai o’m cwmpas i’w ddweud a byddwn yn gwneud fy ngorau i
weithio i sicrhau newidiadau er gwell pan fo modd. Rwy’n meddwl y dylech
bleidleisio drosof fi gan fod gen i sgiliau cyfathrebu rhagorol, rwy’n gwrando
ar eraill ac yn ystyried eu syniadau a’u barn ac rwy’n teimlo’n ddigon hyderus
i gynnig fy syniadau i eraill. Drwy’r
ysgol, rwyf wedi cymryd rhan mewn cynlluniau menter amrywiol, rwy’n
gynrychiolydd dosbarth a’r tu allan i’r ysgol rwyf wedi magu hyder drwy weithio mewn caffi. Mae hyn oll
wedi caniatáu i mi fagu hyder wrth gymdeithasu â phobl. Byddwn yn ymrwymo i roi
o’m hamser ac i flaenoriaethu’r gwaith hwn ac i wneud fy ngorau yn y rôl.