Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Rosemary Squires

Rosemary Squires

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Voices from Care Cymru

My key issues are:

  • support/reliability from social services
  • Breaking stigma through education
  • Increase in social, support groups

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Rosemary Squires

Bywgraffiad

Datganiad yr ymgeisydd: Hoffwn fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwy’n teimlo y gallwn ymgymryd yn effeithiol â’r gwaith o gynrychioli’r rhai o’m cwmpas, sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg i mi. Teimlaf y gallwn wneud hyn gan fy mod i wedi bod yn mynd i Roots Foundation Wales am gyfnod maith. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi creu perthynas gref, ddibynadwy ag eraill yr un oed â mi, a staff, sydd wedi bod drwy’r system gofal neu sydd, fel fi, yn y system honno. Rwy’n hyderus y gallaf wrando ar yr hyn sydd gan y rhai o’m cwmpas  i’w ddweud a byddwn yn gwneud fy ngorau i weithio i sicrhau newidiadau er gwell pan fo modd. Rwy’n meddwl y dylech bleidleisio drosof fi gan fod gen i sgiliau cyfathrebu rhagorol, rwy’n gwrando ar eraill ac yn ystyried eu syniadau a’u barn ac rwy’n teimlo’n ddigon hyderus i gynnig fy syniadau i eraill.   Drwy’r ysgol, rwyf wedi cymryd rhan mewn cynlluniau menter amrywiol, rwy’n gynrychiolydd dosbarth a’r tu allan i’r ysgol rwyf wedi magu  hyder drwy weithio mewn caffi. Mae hyn oll wedi caniatáu i mi fagu hyder wrth gymdeithasu â phobl. Byddwn yn ymrwymo i roi o’m hamser ac i flaenoriaethu’r gwaith hwn ac i wneud fy ngorau yn y rôl.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 14/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Rosemary Squires