Roedd Seth yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei ddatganiad
pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Gwasanaethau cymdeithasol - i helpu teuluoedd
- Trafnidiaeth Mynediad anabl ar y mwyafrif
- Yr amgylchedd - Cymru lanach
Datganiad yr
Ymgeisydd: Rwyf am fod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid i wneud Cymru'n lle mwy
diogel a mwy gofalgar, a sicrhau nad oes neb ar y cyrion. Rwyf am helpu i greu cymdeithas
decach a mwy cyfartal. Rwyf am helpu i wneud Cymru'n lanach ac yn fwy diogel i
bobl ac i anifeiliaid
Bydd gennyf
bolisi 'drws agored' ac rwy'n addo gwrando ar unrhyw un sy'n dymuno siarad â
mi. Rwy'n hapus i wneud hyn ar-lein (gan fod pobl iau weithiau'n
fwy cyfforddus yn defnyddio technoleg i gyfathrebu) neu'n bersonol.
Dylai pobl
bleidleisio drosof fi gan fy mod yn anelu at wneud Cymru'n lle glanach, mwy
gofalgar a mwy cynaliadwy i fyw ynddo.
Yn ddiweddar,
cefais fy ethol yn gynghorydd blwyddyn yn yr ysgol, roeddwn yn allweddol i
gynorthwyo fy ysgol i gadw ei statws Academi Apple drwy wirfoddoli i serennu
mewn fideo, rwy'n wrandäwr da, rwy'n deg, yn onest ac rwy'n hoffi pobl!