Fy Niwrnod Ysgol: crynodeb o'r adroddiad
Clywsom gan fwy na 1,500 o bobl ifanc am hyd y diwrnod ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.
Prif ganfyddiadau
Clywsom fod:
- Roedd 69% o'r farn bod cynyddu faint o amser mae pobl ifanc yn ei dreulio yn eu lle dysgu 5 awr yr wythnos yn syniad gwael.
- Dywedodd 61% o bobl ifanc wrthym na fyddai'n gwella eu hiechyd meddwl a'u lles, ac roedd 46% yn credu na fyddai’n gwella eu hyder.
- Pe bai pum awr yn cael eu hychwanegu at yr wythnos ysgol byddai pobl ifanc eisiau gweld amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu darparu. Yr ymateb mwyaf poblogaidd oedd ar gyfer chwaraeon awyr agored neu weithgaredd corfforol
- Roedd 89% o bobl ifanc yn teimlo'n gryf y dylai'r gweithgareddau hyn fod yn rhad ac am ddim.
- Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn teimlo mai y grwpiau mwy difreintiedig byddai'n elwa'n sylweddol o gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau.
Ein Casgliadau
DEFNYDD O'R AMSER YCHWANEGOL YN Y DIWRNOD YSGOL
Mae'n hynod bwysig bod cymorth yn cael ei roi i bobl ifanc gyflawni eu potensial, ac yn ddi-os mae'r pandemig wedi effeithio ar gynnydd llawer o bobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd. Rydym yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am edrych yn fanwl ar ffyrdd a all helpu’r rhai yr effeithir arnynt i wneud iawn am y cyfleoedd a gollwyd yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig plant a phobl ifanc o gefndiroedd mwy difreintiedig. Mae’n amlwg i ni, fodd bynnag, fod cryn amheuaeth ynghylch y syniad o gynyddu hyd y diwrnod ysgol, ac mae hwn yn bwynt y byddwn yn rhoi sylw iddo yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.
Yn sgil y treialon 'Sesiynau Cyfoethogi Ychwanegol' a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, bu pobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau fel chwaraeon, celf a chrefft, a choginio. O’r trafodaethau rydym wedi’u cael gyda phobl ifanc yn ein hysgolion, ein colegau, ein grwpiau ieuenctid, yn y digwyddiadau grwpiau ffocws y mae ein Pwyllgor wedi’u cynnal, ac o’r ymatebion i’r arolwg hwn, un neges gyson rydym wedi’i chlywed yn amlwg a chlir yw bod pobl ifanc eisiau darpariaeth gyson ac effeithiol o'r mathau hyn o weithgareddau a gweithgareddau sgiliau bywyd eraill.
Credwn fod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn rhoi cyfle i gyflawni rhai o’r amcanion sy’n gysylltiedig â’r treialon hyn, ac mai’r flaenoriaeth yn y tymor byr i’r tymor canolig ddylai fod i wreiddio hyn yn effeithiol, gan gynnwys darparu’r math o weithgareddau sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen ‘Gweithgareddau Cyfoethogi Ychwanegol' yn ystod yr amser y maent yn ei dreulio yn yr ysgol ar hyn o bryd heb fod angen cynyddu nifer yr oriau. Er nad ydym yn cefnogi cyflwyno’r oriau ychwanegol hyn, pe bai hyd yr wythnos ysgol yn cynyddu, ni ddylai cyfranogiad fod yn orfodol i bobl ifanc.
"‘Rwy’n meddwl bod materion llawer mwy blaenllaw yn ymwneud â’r Cwricwlwm y mae angen delio â nhw cyn ychwanegu oriau at y diwrnod ysgol."
Person ifanc
" Mae angen ail-lunio o ran addysg uwchradd, i fod yn debycach i CA2, i wella hyder, gwytnwch a lles, gyda llai o ffocws ar baratoi ar gyfer arholiadau a rhagor o ffocws ar yr awyr agored, chwaraeon a’r pynciau creadigol, drwy ddull gweithredu ysgol gyfan o ran iechyd, llesiant, Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac Addysg Rhyw a Pherthnasoedd. Felly, dylai’r rhain fod ar gael drwy gydol y dydd drwy addysgu trawsgwricwlaidd, yn enwedig yn CA3, gan ddod yn fwy arbenigol yn CA4, ac NID drwy gyflwyno oriau ychwanegol."
Oedolyn
" Byddwn yn argymell archwilio ffyrdd o wneud yr amser presennol yn fwy effeithiol. Fel athro profiadol mae’n amlwg nad yw’r model addysg presennol yn gweddu’n dda i bawb."
Oedolyn
Rydym yn cytuno â’r rhai a ymatebodd i’n harolwg a oedd yn cefnogi, gyda mwyafrif llethol, yr alwad am i’r gweithgareddau hyn fod am ddim ar y pwynt mynediad. Dylai pobl ifanc fod wrth wraidd penderfyniadau o ran y math o weithgareddau a ddarperir a sut y cânt eu darparu.
" Dylai fod elfen i’r plant ddewis beth yw’r gweithgareddau, a dylai hyn fod yn seiliedig ar yr hyn y maent am ei wneud yn hytrach na’u grwpio i’r hyn y dylen nhw ei hoffi."
Oedolyn
EFFAITH
Fel y daethom i'r casgliad yn yr adran flaenorol, rydym yn llwyr gefnogi'r angen i ddarparu 'Gweithgareddau Cyfoethogi Ychwanegol', a sgiliau bywyd eraill i helpu pobl ifanc gyflawni eu potensial a'u paratoi ar gyfer y dyfodol. Rydym yn cytuno â’r rhai a ymatebodd i’n harolwg y byddai hyn yn helpu rhagor o bobl ifanc ddifreintiedig, a hoffem weld y mathau hyn o weithgareddau’n cael eu cyflwyno’n gyson, i roi mynediad i bobl ifanc o bob cefndir at weithgareddau unigryw, waeth beth fo’u sefyllfa ariannol.
Rydym ninnau yr un mor bryderus â’r bobl ifanc y buom yn ymgysylltu â nhw, ynghylch sut y gallai cynyddu’r amser y maent yn ei dreulio mewn mannau dysgu effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Gwyddom fod gwahanol bobl ifanc yn cael profiadau gwahanol iawn yn yr ysgol, ac i rai byddai treulio rhagor o amser yno yn cael effaith groes i’r amcan – ac yn achosi straen a phryder ychwanegol i bobl ifanc, oherwydd eu bod yn treulio rhagor o amser, er enghraifft, yn yr un lle â bwlis. Byddai ganddynt lai o amser i wneud eu gwaith cartref, llai o gyfle i ymlacio gyda’u teuluoedd ac i ddadflino o amgylchedd yr ysgol. Mae llawer o bobl ifanc yn cysylltu’r ysgol â dysgu yn unig, nid ag ymlacio a hwyl. Fel Pwyllgor, rydym hefyd yn cwestiynu a oes gan bobl ifanc y gallu i ganolbwyntio a’r egni i ymgysylltu’n llawn am 5 awr ychwanegol yr wythnos, a gallai hyn gael effaith fwy byth ar bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddem yn pryderu y gallai hyn arwain at lefel is fyth o bresenoldeb a pherfformiad yn yr ysgol.
" I rai pobl, mae’r ysgol yn lle negyddol, felly nid yw eu gorfodi i aros yno’n hirach i ‘helpu eu hiechyd a’u lles’ yn gwneud synnwyr."
Person ifanc
Yn yr un modd, rydym yn ymwybodol iawn o faint o bwysau sydd eisoes ar ein hathrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill, a pha mor anodd yw'r sefyllfa ariannol i sefydliadau addysg. Rydym yn rhannu’r ofnau a godwyd, y bydd cyflwyno oriau ychwanegol i’r diwrnod yn rhoi pwysau ariannol pellach ar ysgolion a mannau dysgu eraill, ac yn ychwanegu hyd yn oed yn fwy at lwyth gwaith addysgwyr, sydd eisoes o dan bwysau.
"Dargyfeirio cyllid oddi wrth ysgolion, llwyth gwaith penaethiaid a staff, difrod i adeiladau ysgol, materion disgyblu, rhagor o bwysau o ran cadw staff."
Oedolyn
"Sicrhewch fod gan ysgolion yr arian i wneud y gweithgareddau yn ystod y diwrnod ysgol. Fe gollon ni athro drama gwych a roddodd sylw i sesiynau Cynllunio, Paratoi ac Asesu, a hynny oherwydd cyfyngiadau cyllidebol. Weithiau ni allaf wneud rhai gweithgareddau oherwydd nad oes gennym yr adnoddau."
Oedolyn
Fel y soniasom o'r blaen, nid ydym yn cytuno â'r cynnig i ymestyn hyd y diwrnod ysgol. Byddai angen mynd i’r afael â nifer o faterion eraill cyn y gallwn ddeall yn llawn a yw’n ymarferol. Er enghraifft, cyllid, newidiadau i gludiant o fannau dysgu, a sut y byddai'n effeithio ar glybiau a gweithgareddau presennol a gaiff eu cynnal y tu allan i oriau ysgol.
Er yn cytuno â’r syniad o ddarparu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc, yn enwedig pobl ifanc o gefndiroedd mwy difreintiedig, nid ydym yn teimlo mai ymestyn hyd y diwrnod ysgol yw’r ffordd i’w gyflwyno, gan y dylai hyn fod yn bosibl o fewn oriau penodedig presennol yr ysgol.
EIN HARGYMHELLION
Beth ydym ni eisiau ei weld yn newid?
Rydym yn galw am:
- Darparu gweithgarwch corfforol, gweithgareddau antur awyr agored, celf a chrefft, coginio a maetheg, a sgiliau bywyd eraill yn gyson ac effeithiol drwy’r Cwricwlwm newydd i Gymru, wedi’i ddarparu o fewn yr oriau ysgol presennol.
- Dylai pobl ifanc fod wrth wraidd penderfyniadau o ran pa weithgareddau a ddarperir, a dylent fod am ddim yn y pwynt mynediad.
- Dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r angen i gynyddu oriau ysgol ar ôl rhoi digon o amser i leoedd dysgu geisio darparu’r mathau hyn o weithgareddau o fewn y diwrnod ysgol presennol.
- Dylai unrhyw dreialon yn y dyfodol geisio ymdrin â rhwystrau fel cludiant o'r ysgol, cost darparu, ac effaith ar allu a llesiant gweithwyr addysg proffesiynol.
- Mae angen rhagor o waith ymchwil i ddeall i ba raddau y gall pobl ifanc gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau yn ystod oriau ychwanegol, i ddeall a ddylai’r ddarpariaeth fod yn unffurf ar draws grwpiau oedran, a pha fudd a ddaw yn ei sgil. Dylid canolbwyntio’n arbennig ar bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Dylid darparu’r adnoddau ar gyfer grwpiau a sefydliadau ieuenctid, i alluogi rhagor o ddarpariaeth o’r mathau hyn o weithgareddau i bobl ifanc mewn cymunedau ledled Cymru.