Mae angen eich help arnom ni i ddeall ac edrych ar y materion iechyd meddwl sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru.
Beth ydych chi'n ei wybod ac yn ei deimlo? Sut mae eich profiad o wasanaethau wedi bod? A yw'r sefyllfa wedi gwella?
Os oes gennych rywbeth i’w ddweud am iechyd meddwl, rydym am glywed oddi wrthych chi.
Cymerwch ran drwy lenwi ein harolwg. 👇
Arolwg Iechyd Meddwl Fersiyau Hawdd i'w Darllen
Mae gennym fersiynau hawdd i'w darllen o'r sgrin ac i'w printio o'n harolwg ein hymgyrch #MeddyliauoBwys. Os hoffech yrru eich copiau papur atom, gyrrwch nhw (plis ysgrifennwch yn union fel sydd wedi cael ei deipio ar y dudalen - yn Gymraeg ac yn Saesneg):
Blaen yr amlen:
Freepost WELSH PARLIAMENT RHADBOST SENEDD CYMRU
Cefn yr amlen:
Tim Senedd Ieuenctid Cymru
Arolwg i Oedolion a phobl Proffesiynol ar Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Os ydych yn rhiant, yn warcheidiwr neu yn gweithio gyda phobl ifanc rydym eisiau clywed gennych: cwblhewch ein harolwg heddiw.
Gwybodaeth a chymorth
Os ydych chi'n mynd drwy gyfnod anodd, nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Dyma rai mannau ble mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael.
Mae gan MindCymru ganllaw defnyddiol y gallwch ei ddefnyddio os hoffech gael rhywfaint o wybodaeth i ganfod sut y gallech fod yn teimlo.
Os ydych chi'n profi iechyd meddwl gwael, neu’n adnabod rhywun sy’n mynd drwy hynny, ac eisiau siarad â rhywun, gallwch gysylltu â:
- Meic Cymru - 080880 23456 neu neges destun 84001 neu drwy ei wasanaeth negeseuon ar-lein https://www.meiccymru.org/
- Hub of Hope (cronfa ddata iechyd meddwl genedlaethol) - https://hubofhope.co.uk/
- CALM (llinell gymorth i fechgyn/dynion) - 0800 585858 https://www.thecalmzone.net/
- PAPYRUS (atal hunanladdiad ifanc) 0800 0864141 https://papyrus-uk.org