Arolwg iechyd meddwl #MeddyliauIauoBwys

Cyhoeddwyd 18/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae angen eich help arnom ni i ddeall ac edrych ar y materion iechyd meddwl sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru.

Beth ydych chi'n ei wybod ac yn ei deimlo? Sut mae eich profiad o wasanaethau wedi bod? A yw'r sefyllfa wedi gwella?

Os oes gennych rywbeth i’w ddweud am iechyd meddwl, rydym am glywed oddi wrthych chi.

Cymerwch ran drwy lenwi ein harolwg. 👇

 

Arolwg Iechyd Meddwl Fersiyau Hawdd i'w Darllen

Mae gennym fersiynau hawdd i'w darllen o'r sgrin ac i'w printio o'n harolwg ein hymgyrch #MeddyliauoBwys. Os hoffech yrru eich copiau papur atom, gyrrwch nhw (plis ysgrifennwch yn union fel sydd wedi cael ei deipio ar y dudalen - yn Gymraeg ac yn Saesneg):

Blaen yr amlen:

Freepost WELSH PARLIAMENT RHADBOST SENEDD CYMRU

Cefn yr amlen:

Tim Senedd Ieuenctid Cymru

Arolwg i Oedolion a phobl Proffesiynol ar Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Os ydych yn rhiant, yn warcheidiwr neu yn gweithio gyda phobl ifanc rydym eisiau clywed gennych: cwblhewch ein harolwg heddiw.

Gwybodaeth a chymorth

Os ydych chi'n mynd drwy gyfnod anodd, nid ydych chi ar eich pen eich hun.

Dyma rai mannau ble mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael.

Mae gan MindCymru ganllaw defnyddiol y gallwch ei ddefnyddio os hoffech gael rhywfaint o wybodaeth i ganfod sut y gallech fod yn teimlo. 

Os ydych chi'n profi iechyd meddwl gwael, neu’n adnabod rhywun sy’n mynd drwy hynny, ac eisiau siarad â rhywun, gallwch gysylltu â: