Ffyrdd Gwyrdd: crynodeb o’r adroddiad

Clywsom ni gan 1,300 o bobl ifanc am drafnidiaeth gynaliadwy.


Prif ganfyddiadau

Clywsom fod:

  1. Mae 2/3 o bobl ifanc yn ymwybodol o effaith amgylcheddol eu dull teithio dewisol ond dywedodd 72% o'r bobl ifanc a lenwodd yr arolwg nad oedden nhw'n gwybod bod cynlluniau yng Nghymru fel FyNgherdynTeithio sy’n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc.
  2. Dywedodd 74% o bobl ifanc y bydden nhw’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach pe bai am ddim.
  3. Beicio yw’r opsiwn teithio llesol lleiaf diogel ym marn yr ymatebwyr. Dywedodd 41% eu bod yn teimlo’n ddiogel iawn neu’n weddol ddiogel wrth feicio.
  4. Mae llawer o grwpiau'n cael eu gwthio i'r cyrion o ran cael profiadau cadarnhaol o drafnidiaeth gyhoeddus. Mae pobl ifanc niwroamrywiol a phobl ifanc anabl yn wynebu llawer mwy o heriau ar drafnidiaeth gyhoeddus fel diffyg rampiau, diffyg cerbydau tawel ac ati. Mae chwarter y rhai o leiafrifoedd ethnig yn teimlo'n anniogel ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ein casgliadau

YMWYBYDDIAETH A DEALLTWRIAETH

Mae’n gadarnhaol bod cymaint o bobl ifanc yn ymwybodol o fanteision amgylcheddol teithio cynaliadwy, a’r ffordd y gall teithio llesol helpu eu llesiant corfforol ac emosiynol.

Rydym o’r farn ei bod yn rhyfeddol nad oedd 72% o bobl ifanc (a nifer o gyd-Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru) yn gwybod bod cynlluniau yng Nghymru i’w gwneud yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel FyNgherdynTeithio. Er bod cymaint o’r bobl ifanc hyn yn dweud mai cost yw un o’r prif rwystrau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (byddwn yn ymdrin â hynny eto yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn).

Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried y ffigur hwn, a gweithio ar eu dull o farchnata’r cynlluniau hyn i sicrhau bod pobl yn gwybod amdanynt. Cawsom ein synnu o weld nad oedd oedolion yn gwybod llawer am y cynlluniau hyn chwaith. Mae hyn yn peri pryder o ystyried yr effaith y mae rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr yn ei chael ar ddewisiadau teithio pobl ifanc.

 

"I raddau helaeth, mae’r ffordd y mae’r rhieni yn magu eu plant a dealltwriaeth y rhieni o fanteision teithio cynaliadwy yn helpu i godi ymwybyddiaeth"

Person ifanc 17 oed, Rhondda Cynon Taf

 

Er bod llawer o bobl ifanc hefyd wedi dweud wrthym fod mannau dysgu yn dda am eu haddysgu am fanteision teithio cynaliadwy, rydym yn teimlo y gellir gwneud mwy yma gan fod nifer fawr o bobl ifanc wedi dweud nad oedd mannau dysgu’n dda nac yn wael am wneud hyn.

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion ychydig yn fwy beirniadol o ran pa mor dda oedd mannau dysgu am gyfathrebu sut i deithio mewn ffordd gynaliadwy yn yr ardal leol. Teimlwn y dylid rhoi mwy o bwyslais ar hyn mewn mannau dysgu a bod angen i’r gwersi fod yn berthnasol i’r byd go iawn ac i’r ardal leol - pan fo pobl ifanc yn cael gwybod am lwybrau lleol, sut i ddefnyddio gwahanol ddulliau teithio, sut y maent yn cysylltu, a’r gwahanol gynlluniau sydd ar gael i’w cefnogi. Rydym hefyd yn teimlo bod angen gwneud mwy o waith y tu allan i’r ysgol i hysbysebu a hyrwyddo manteision ac ymarferoldeb teithio cynaliadwy yn ein cymunedau lleol ledled Cymru.

 

"Dydw i ddim yn teimlo bod ffyrdd o arbed arian yn cael eu harddangos yn ddigon effeithiol. Mae angen i ni gael mwy o ffyrdd o arbed arian ond hefyd mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod rhain yn cael eu hyrwyddo ymhellach"

Person ifanc 19 oed, Ynys Môn


FFORDDIADWYEDD

Mae'n amlwg mai pris tocynnau yw un o’r problemau mwyaf sy’n atal pobl ifanc rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy nag y maent nawr.

Mae’r cynllun FyNgherdynTeithio yn galluogi pobl ifanc rhwng 16 ac 21 oed i deithio am gost lai, ond mae angen mwy o gefnogaeth i annog teuluoedd i ddefnyddio’r bws er enghraifft, fel ei fod yn opsiwn mwy fforddiadwy i oedolion deithio gyda phlant a phobl ifanc o dan 16 oed.

Er ein bod yn cefnogi’r cynlluniau sydd eisoes ar waith i wneud teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn llai costus, credwn yn y pen draw y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhad ac am ddim i bobl ifanc o dan 25 oed.

Rydym yn credu y byddai hyn yn annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thros amser byddai pobl ifanc yn dweud wrth eu ffrindiau gan eu hannog i wneud yr un peth. Gallai hyn hefyd arwain at ffurfio ymddygiad a fydd yn gweld pobl ifanc yn parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fyddant yn oedolion.

 

"Dwi'n cytuno y dylai'r drafnidiaeth fod yn rhad ac am ddim ac o ran y rheswm - dwi'n meddwl ei bod yn bwysig sefydlu arferion iach ar gyfer y dyfodol - os yw pobl ifanc yn dod i arfer â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus maen nhw'n fwy tebygol o barhau pan fyddan nhw'n hŷn. Ac yna mae bron yn talu amdano'i hun os oes mwy o bobl yn defnyddio’r gwasanaeth, felly rwy'n credu ei bod yn gwbl amlwg mewn gwirionedd."

Elena Ruddy, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru - Partner a Etholwyd drwy'r Urdd


SEILWAITH, DIBYNADWYEDD AC ARGAELEDD TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS

Mae’n amlwg inni fod angen i drafnidiaeth gyhoeddus ymestyn ymhellach nag y mae ar hyn o bryd, mae angen i’r gwasanaethau hyn fod yn fwy rheolaidd, mae angen iddynt fod yn ddibynadwy ac yn gydgysylltiedig, ac mae angen i amseroedd teithio fod yn fyrrach.

Rydym yn teimlo bod canfyddiad negyddol cynyddol yn gysylltiedig â thrafnidiaeth gyhoeddus, na ellir dibynnu arni i gyrraedd lleoedd ar amser, a all gael effaith fawr ar bobl ifanc pan fydd angen iddynt gyrraedd mannau dysgu, mannau gwaith, neu ymrwymiadau pwysig eraill. Mae'r her i’r rhai mewn ardaloedd gwledig hyd yn oed yn fwy.

 

"Gwella ac estyn rhwydweithiau rheilffyrdd i gwmpasu mwy o ardaloedd yng Nghymru. Mae'n dda gwybod nad yw Llywodraeth Cymru yn adeiladu unrhyw ffyrdd newydd OND mae angen i'r costau a arbedir gael eu rhoi i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a sicrhau bod y cyhoedd yn gweld ac yn teimlo’r buddsoddiad hwn (drwy wneud gwasanaethau'n fwy dibynadwy)."

Rhiant/gofalwr/gwarcheidwad

 

Ni waeth pa mor dda yw bwriadau pobl wrth iddynt benderfynu sut i deithio yn seiliedig ar yr effaith ar yr amgylchedd. Os bydd pobl yn parhau i ystyried bod trafnidiaeth gyhoeddus yn anghyfleus, yna bydd canran fawr o bobl yn dewis opsiynau y maent yn ystyried eu bod yn fwy cyfleus ac yn fwy diogel fel defnyddio car.

Er mwyn gweld y cynnydd rydym i gyd yn gobeithio ei weld yn nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, rydym yn cytuno'n llwyr bod angen mwy o fuddsoddiad.  Fel y dywedodd y gwleidydd o Golombia Enrique Peñalosa un tro, 'nid dinas lle mae gan bobl dlawd geir yw dinas datblygedig, ond un lle mae'r bobl gyfoethog yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.'

Rydym yn teimlo bod angen gwneud mwy i wella’r profiad i’r bobl ifanc niwroamrywiol hynny a’r rhai ag anableddau corfforol. Mae angen gwneud gwaith i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn gyfleus, ac mae gwasanaethau wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer y bobl ifanc hyn.


LLWYBRAU TEITHIO LLESOL

Mae angen i lwybrau teithio llesol deimlo’n fwy diogel, ac yn fwy cyfleus os oes mwy o bobl ifanc yn mynd i’w hystyried yn ffordd ymarferol o fynd o le i le. Fel gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn cyflawni hyn teimlwn fod angen mwy o fuddsoddiad.

Cawsom ein synnu o glywed gan gynifer o bobl a ddywedodd fod diffyg mannau parcio diogel ar gyfer beiciau yn eu hardal, ac er eu bod yn gyson â rhai o’n profiadau roedd yn destun pryder bod eraill yn ei chael yn anodd parcio eu beic yn eu man dysgu hefyd.

 

"Mae'n gallu bod yn eithaf anodd dod o hyd i rywle i barcio’ch beic pan fyddwch chi'n cyrraedd yr ysgol neu'r coleg. Rwy'n gwybod, er enghraifft, fod rhai o fy ffrindiau yn arfer beicio i'r ysgol a bod rhaid iddynt ei roi yng nghwpwrdd gofalwr yr ysgol. Does dim stondinau beiciau chwaith."

Kasia Tomsa, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru - Blaenau Gwent


ARWYDDION, TOCYNNAU, A GWYBODAETH AMSERLENNU

Mae’n amlwg inni fod angen gwelliannau er mwyn i bobl ifanc allu cael gafael ar yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i gynllunio eu teithiau, a bod angen i’r wybodaeth honno fod yn hygyrch ac yn hawdd ei llywio hyd yn oed pan fyddant yn ystyried defnyddio sawl dull o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol i gyrraedd pen eu taith.

Yr her yw annog pobl i beidio â defnyddio ceir y mae gan lawer ohonynt fynediad iddynt ac y gallant benderfynu pryd yn union i’w defnyddio, y llwybr y maent yn ei gymryd, y gerddoriaeth y maent yn gwrando arni ac yn y blaen. Gan ddefnyddio geiriau’r hyn a ddywedodd un person ifanc wrthym, ‘mae cyfleustra yn bwysig’ i gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n teithio mewn ffordd gynaliadwy, a gall bod yn well am ddarparu gwybodaeth glir, hygyrch helpu i gau’r bwlch hwnnw. 

Rydym eisoes wedi sôn yn yr adroddiad hwn am yr angen i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy dibynadwy, ond pan fydd yr amseroedd cyrraedd yn newid, mae angen i bobl allu cael gafael ar yr wybodaeth honno’n hawdd ac yn gyflym.

Er nad ydym yn credu ei fod yn un o’r rhwystrau mwyaf, rydym yn credu bod pethau bach yn helpu i annog pobl i ddefnyddio ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio, felly gyda hynny mewn golwg, credwn y dylid cymryd camau i integreiddio tocynnau yn well ar draws sawl dull o drafnidiaeth gyhoeddus i wneud y broses yn llyfnach ac yn haws i bobl ifanc.


GWAHANIAETHU A CHAM-DRIN

Mae’n eithriadol o drist clywed bod pobl ifanc yn dioddef gwahaniaethu, ac yng nghyd-destun ein gwaith ar deithio cynaliadwy, ei fod yn atal rhai pobl ifanc rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae angen i bobl ifanc allu teithio’n ddiogel ac yn rhydd, ac mae angen cymryd camau i fynd i’r afael â gwahaniaethu, bwlio a mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer cymdeithas gynhwysol, ac i annog pobl i wneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

EIN HARGYMHELLION

Beth ydym ni eisiau ei weld yn newid?

Rydym yn galw am:

1. Mannau dysgu i roi mwy o bwyslais ar wella dealltwriaeth pobl ifanc o ymarferoldeb sut y gallant deithio'n gynaliadwy yn eu hardal leol,

2. Mwy o ymdrechion i hyrwyddo teithio cynaliadwy, a chynlluniau fel FyNgherdynTeithio.

3. Cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl o dan 25 oed

4. Cyflwyno cynlluniau i gefnogi pobl ifanc i gael mynediad at offer fel beiciau a hyrwyddo’r cynlluniau’n effeithiol.

5. Mwy o fuddsoddiad yn ein gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, gan ganolbwyntio ar:

  • Ehangu llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus
  • Cynyddu amlder gwasanaethau
  • Sicrhau bod gwasanaethau’n ddibynadwy
  • Lleihau amseroedd teithio

6. Gwella cysylltedd rhwng gwahanol ddulliau teithio cynaliadwy

7. Cael gwared â rhwystrau sy’n wynebu gwahanol grwpiau gan gynnwys pobl ifanc niwroamrywiol a’r rhai ag anableddau corfforol.

8. Mwy o fuddsoddi mewn llwybrau teithio llesol, gyda ffocws ar wella diogelwch a hygyrchedd. Yn benodol, hoffem weld:

  • mwy o lwybrau cerdded, beicio ac olwyno
  • mwy o lonydd beicio ar wahân
  • gwelliannau yng nghyflwr llwybrau a phalmentydd

9. Cynyddu nifer y cyfleusterau ar gyfer parcio beiciau’n ddiogel mewn cymunedau, ac yn enwedig mewn mannau dysgu.

10. Gwelliannau o ran y wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol sydd ar gael a’r dull o’i chyfathrebu, gan ei gwneud yn fwy hygyrch, fel ei bod yn haws gweld sut y gellir defnyddio gwahanol ddulliau teithio i gyrraedd y cyrchfan

11. Gwella’r wybodaeth amser real a ddarperir i ddangos cynnydd ac amseroedd cyrraedd wedi’u diweddaru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, pan fydd oedi

12. Darparu opsiwn tocynnau sy’n galluogi pobl ifanc i’w defnyddio ar draws sawl dull trafnidiaeth gyhoeddus

13. Ymgyrch gydgysylltiedig i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwahaniaethu yn erbyn grwpiau o bobl ifanc ar y cyrion, a mannau dysgu i ymgorffori hynny wrth ddarparu’r Cwricwlwm i Gymru.


Lawrlwythiadau a rhagor o wybodaeth