Ffug Etholiad

Cyhoeddwyd 03/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/06/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd etholiad nesaf Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal rhwng 1 a 22 Tachwedd.  

Beth am gynnal eich ffug etholiad eich hun yn y cyfamser? Mae aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfrannu at gynnig newidiadau yng Nghymru, a hynny drwy drafod pynciau sy'n bwysig i bobl ifanc. Mae hwn yn gyfle gwych i ysbrydoli pobl ifanc i sefyll fel ymgeiswyr dros faterion y maen nhw'n angerddol yn eu cylch.

A yw'ch pobl ifanc eisiau dysgu mwy am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru? A ydyn nhw eisiau rhoi eu sgiliau dadlau ar brawf? Trowch eich ystafell ddosbarth neu'ch grŵp ieuenctid yn Siambr fach heddiw.

Canllaw cam wrth gam i redeg eich ffug etholiad:

  1. Penderfynu pa bynciau yr hoffech eu trafod yn ystod y ffug etholiad. Gallwch weld rhestr o bynciau datganoledig y mae'r Senedd yn gyfrifol amdanynt yma 
  2. Rhannwch eich dosbarth yn bleidiau (3-4 fesul plaid) a gofynnwch iddynt enwi eu hunain e.e. 'Dreigiau Ardudwy' 
  3. Gofynnwch i'r pleidiau flaenoriaethu materion o dan bob pwnc (ee Pwnc: Iechyd Mater: Amseroedd aros byrrach ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl)  
  4. I bob plaid greu 3-4 polisi ar eu materion â blaenoriaeth ar ffurf maniffesto (datganiad ysgrifenedig yw maniffesto yn egluro syniadau a barn y blaid) 
  5. Dewiswch arweinydd i’r blaid a fydd yn cyflwyno ei maniffesto  
  6. Arweinydd y blaid i gyflwyno ac ateb cwestiynau gan y gynulleidfa sy'n berthnasol i'w maniffesto  
  7. Ar ôl i bob plaid roi cyflwyniad, cynnal pleidlais fyw 
  8. Cyhoeddi’r blaid fuddugol (gallech chi hefyd feddwl am wobr os hoffech chi)   

Os hoffech weld sut mae rhedeg ffug etholiad, gallwch wylio ein fideo 'Dewch i Ddadlau: Ffug Etholiad i bobl ifanc’ ar Senedd.TV.