Hystingau

Cyhoeddwyd 03/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/11/2021   |   Amser darllen munudau

Oes gennych chi bobl ifanc yn sefyll fel ymgeiswyr yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru? Os oes, yna bydd cynnal hystingau yn helpu i gefnogi ymgeiswyr sy'n sefyll yn eich ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid.  

Mae llawer o bobl yn aml yn ansicr ynghylch pwy i bleidleisio drostynt, a pham pleidleisio drostynt.

Mae cynnal hystingau yn gyfle da i bobl ifanc glywed gan ymgeiswyr yn eich ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid ynghylch pam mai dyna pwy ddylai fod eu cynrychioli yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Rhowch gyfle iddyn nhw i gyd gyflwyno eu prif flaenoriaethau, a chaniatáu i'r gynulleidfa holi cwestiynau hefyd! Wedi’r cyfan, byddant yn codi llais ar eu rhan.
Bydd hystingau’n eu helpu i benderfynu pwy i bleidleisio drostynt yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd 2021.  

Rhaid i bobl ifanc gofrestru i bleidleisio i allu pleidleisio yn yr etholiad sydd ar y gweill. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud hyn erbyn y dyddiad cau, sef 12 Tachwedd.