10 Ffordd y gelli di gymryd rhan yn Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 07/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/09/2021   |   Amser darllen munud

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys 60 Aelod 11–18 oed, a ti sydd i bleidleisio drostyn nhw. Pobl ifanc yng Nghymru sy’n dewis y materion fydd yn hawlio sylw’r Aelodau.  

Bydd etholiad nesaf Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2021, pan fyddwn yn ethol 60 person ifanc i fod yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru am y ddwy flynedd nesaf.  

Yn dilyn llwyddiant wythnos Senedd Ieuenctid Cymru yn 2020, rydym yn ôl. Mae’n amser codi ymwybyddiaeth o beth yw Senedd Ieuenctid Cymru a sut mae’n bosib i ti gymryd rhan.  

Dyma 10 ffordd y gelli di gymryd rhan yn wythnos Senedd Ieuenctid Cymru ac ymgyrch etholiad Senedd Ieuenctid Cymru eleni. 

 

1. Sefyll i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru: Bydd y cyfle i enwebu dy hunan i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn cau ddydd Llun 20 Medi. Paid â cholli allan!

2.Ymuno mewn sesiwn hyfforddiant: Ddydd Llun 13 Medi byddwn yn cynnal sesiwn hyfforddiant i athrawon a gweithwyr ieuenctid i ddysgu am stori’r Senedd Ieuenctid hyd yn hyn a sut i annog pobl ifanc i bleidleisio a sefyll yn yr etholiad. Cofrestra nawr!  

 3. Archebu sesiwn i’ch ysgol neu grŵp ieuenctid: Byddwn yn siarad gyda nifer o bobl ifanc yn ein sesiynau rhithwir drwy gydol yr wythnos.  Gelli di archebu sesiwn i dy ysgol neu grŵp ieuenctid i ddysgu mwy am sut i wneud cais i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, sut i gofrestru i bleidleisio a sut i rannu’r materion sydd bwysicaf i ti yn dy ardal leol.  

4. Tyrd am sgwrs: Yn ystyried gwneud cais i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid nesaf Cymru? Tyrd draw am sgwrs rithwir, anffurfiol, i ddysgu mwy am sut i wneud dy gais a beth mae’n ei olygu i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Pryd? Ddydd Mercher 15 Medi am 17:30. 

5. Lawrlwytho ein pecyn digidol: Wyt ti’n hoff o rannu cyfleoedd a gwybodaeth ar dy dudalennau cyfryngau cymdeithasol? Eisiau rhannu gwybodaeth am Senedd Ieuenctid Cymru a sut i gymryd rhan yn yr etholiad nesaf? Beth am lawrlwytho ein pecyn digidol sy’n cynnwys darluniau digidol wedi eu brandio i dy helpu i rannu cynnwys gwych? 

6. Archebu  pecyn marchnata: Mae pecyn marchnata ar gael i’w dderbyn yn y post, sy’n llawn posteri, taflenni gwybodaeth a sticeri. Gelli di archebu drwy anfon ebost at helo@seneddieuenctid.cymru  

7. Dysgu mwy am ein sefydliadau partner: Mae ein sefydliadau partner ar gyfer y tymor nesaf wedi eu dewis. Cadw lygad am sut y gelli di ddysgu mwy amdanynt dros yr wythnosau nesaf.  

8. Cynnal gweithgaredd: Mae gennym sawl adnodd ar gael i ti allu cynnal dy weithgareddau dy hun yn d ysgol neu grŵp ieuenctid. Beth am gynnal dadl ar y materion sy’n bwysig yn dy ardal leol? Beth am sefydlu hyb i annog pobl ifanc eraill i gofrestru i bleidleisio yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru? Neu beth am gynnal digwyddiad hystings?  

9. Beth sy’n bwysig i ti?: Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r materion sydd fwyaf pwysig i ti yng Nghymru a dy ardal leol. Beth sydd fwyaf pwysig i ti? Rhanna dy syniadau yn ein holiadur.  

10. Cofrestu i bleidleisio: Mae’n bosib i ti gofrestru i bleidleisio yn etholiad nesaf Senedd Ieuenctid Cymru NAWR. Hyd at 12 Tachwedd. Sicrha nad wyt yn colli’r cyfle gwych hwn. Mae’n dechrau gyda ti!