18 o sefydliadau ieuenctid yn ymuno â Senedd Ieuenctid Cymru roi llwyfan i amrywiaeth o leisiau

Cyhoeddwyd 11/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/08/2021   |   Amser darllen munudau

“Rwy'n credu fy mod i'n ysbrydoli pobl trwy gynrychiolaeth, pan welwch chi fwy o ferched duon yn y swyddi pwerus hyn, mae mor llwyddiannus fel ysbrydoliaeth i fechgyn a merched, mae'n anhygoel.”

Roedd Angel Ezeadum yn cynrychioli Gyngor Hil Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru ddiwetha' - Senedd sy’n cynnwys pobl ifanc 11-17 oed sydd yn rhoi llwyfan cenedlaethol i drafod y materion sydd o bwys i'w cenhedlaeth. Mae Angel yn annog pobl ifanc eraill i ymgeisio ar gyfer etholiad Senedd Ieuenctid Cymru eleni.

Bydd yr Aelodau Etholedig yn gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru ac yn sefyll dros y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Byddant hefyd yn cael cyfle i weithio gyda pobl sydd mewn grym i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu dyfodol.

O'r 60 Aelod a fydd yn cael eu hethol, bydd 20 yn cael eu dewis gan elusennau a sefydliadau ieuenctid ledled Cymru i sicrhau bod Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys grŵp amrywiol o bobl ifanc.

Eleni, mae 18 o elusennau a sefydliadau ieuenctid o bob rhan o Gymru wedi cael eu dewis i ymuno â Senedd Ieuenctid Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys Race Council Cymru, Tŷ Hafan, Talking Hands a Chymdeithas Genedlaethol Plant Byddar, ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Mae'r partneriaid yn amrywio o rwydweithiau ledled Cymru fel Ffermwyr Ifanc Cymru a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru i grwpiau lleol fel yr elusen GISDA o Wynedd ac YMCA Abertawe.

Bydd pob un yn cynnal eu hetholiadau eu hunain i ddewis pobl ifanc o'u grwpiau i'w cynrychioli yn Senedd Ieuenctid nesaf Cymru.

Ychwanegodd Angel Ezeadum:

“Mae cymaint y gallwn ni [pobl ifanc] ei wneud. Rwy'n credu, unwaith y bydd person yn gweld eich wyneb, ry’ chi'n mynd i ysbrydoli o leiaf un person arall i gredu y gallan nhw gyflawni hyn hefyd. Felly, rwy’n gobeithio fod fy ngweld i yn y Senedd Ieuenctid yn eich ysbrydoli chi i ymgeisio i gymryd rhan hefyd un dydd. Mae'n bosib - p'un a ydych chi'n ferch, bachgen, person o liw ai peidio. Mae'n wirioneddol yn rhywbeth y gall pawb ei wneud ac fe allwch chi wneud i hynny ddigwydd i chi.”

Roedd Sophie Billinghurst yn cynrychioli Talking Hands, elusen yng Nghymru gyfan sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd. Meddai fod y profiad wedi rhoi mwy o hyder iddi gyflawni pethau na fyddai wedi ystyried eu gwneud o’r blaen.

“Y peth mwyaf a wnaeth y Senedd Ieuenctid Cymru i mi fel person, ac i’r sefydliad rwy’n ei gynrychioli, yw rhoi mwy o hyder i mi. Ni fyddwn erioed wedi meddwl gwneud araith o flaen cymaint o bobl, ond rhoddodd Senedd Ieuenctid Cymru gyfle i mi goncro’r ofn o siarad yn gyhoeddus. Roedd yn hwb mawr i'm hyder. Fe wnaeth hefyd roi llais i mi ac i'r gymuned fyddar ro’n i’n ei gynrychioli, lleisiau na fyddai wedi cael eu clywed o'r blaen.

“Un o’r profiadau mwyaf cofiadwy a gefais oedd y tro cyntaf i ni gyd ddod at ein gilydd a gwneud ein hareithiau ar bwnc yr oeddem yn teimlo’n angerddol amdano. Roedd yn anhygoel gwrando ar gymaint o areithiau pwerus! Peth arall a newidiodd fi yw'r cyfeillgarwch rydw i wedi'i adeiladu gyda phobl ifanc ledled Cymru, a byddan nhw'n ffrindiau am oes.”

Cynrychiolodd Hasna Ali yr elusen hawliau plant Tros Gynnal Plant. Ganed Hasna yn Syria, a daeth i fyw yng Nghymru gyda'i theulu fel ffoadur.

“Roedd yn brofiad anhygoel cymryd rhan yn Senedd Ieuenctid Cymru. Cyn i mi ymuno roeddwn yn rhy swil am bopeth ond fe helpodd y Senedd Ieuenctid fi i fod yn gryf. Y peth gorau am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oedd fy mod i wedi cwrdd â llawer o bobl hyfryd ac mae hefyd wedi fy helpu i wella fy iaith Saesneg.

“Yn fwy na dim hoffwn ddiolch i Dros Gynnal Plant a Senedd Ieuenctid Cymru a gredodd ynof a rhoi’r cyfle anhygoel hwnnw imi hefyd.”

Dewiswyd y sefydliad partner gan Lywydd y Senedd, Elin Jones AS, Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland a Chadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, Jayne Bryant AS.

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS:

“Rydym wedi dewis rhestr amrywiol o sefydliadau profiadol sydd ag enw da am gefnogi a rhoi cyfle a hyder i bobl ifanc ac a fydd, heb amheuaeth, yn cyfrannu’n fawr at waith Senedd Ieuenctid Cymru nesaf.”

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, a gefnogodd y broses i ddewis y sefydliadau partner:

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod ein Senedd Ieuenctid yn eistedd wrth wraidd ein proses ddemocrataidd. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i ni sicrhau bod ei aelodau'n cynrychioli cymunedau amrywiol Cymru. Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn galluogi'r Senedd Ieuenctid i gefnogi pobl ifanc sydd ag amrywiaeth o brofiadau a safbwyntiau i sefyll fel aelodau etholedig i sicrhau ei bod yn cynrychioli budd Cymru gyfan a'i phobl."

Mae cyfle i bobl ifanc nad ydyn nhw'n ymwneud â'r sefydliadau partner i ymgeisio i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Bydd etholiad ledled Cymru yn cael ei gynnal yn yr hydref, pan fydd 40 Aelod yn cael eu hethol gan bobl ifanc yn eu hardal leol i'w cynrychioli yn y Senedd Ieuenctid.

Mae ceisiadau bellach ar agor i bobl ifanc 11-17 oed sefyll yn yr etholiad, ond brysiwch, mae'r ceisiadau'n cau ar 20 Medi.

Y sefydliadau fydd yn gweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru dros y ddwy flynedd nesaf yw:

  • Race Council Cymru
  • EYST (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru)
  • Tros Gynnal Plant Cymru
  • AR Y CYD Talking Hands a’r Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar
  • Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
  • Anabledd Dysgu Cymru
  • Digon - grŵp ieuenctid LGBTQ+ yn Ysgol Gyfun Plasmawr
  • GirlGuiding Cymru
  • Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru 
  • Urdd Gobaith Cymru
  • NYAS Cymru
  • Lleisiau o Ofal Cymru
  • GISDA
  • Llamau
  • Tŷ Hafan
  • Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
  • YMCA Abertawe