Awr Ddaear

Cyhoeddwyd 23/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/03/2022   |   Amser darllen munudau

Blog Awr Ddaear

Mae’n bryd diffodd dy oleuadau am awr a chodi dy lais ar newid hinsawdd!

 

Fel person ifanc yn y byd heddiw, mae'n anodd darllen unrhyw erthygl sydd ddim yn datgan rhywbeth negyddol am yr hinsawdd beth rydyn ni, fel pobl, wedi'i wneud i’n planed. Ein planed sy’n talu am ein ffordd fodern a chyflym o fyw, sy’n defnyddio llawer o ynni! Mae'r cloc nawr yn tician i bob un ohonon ni! Mae’n bryd i ni i gyd fuddsoddi yn ein planed a, thrwy hynny, fuddsoddi yn ein dyfodol.   

 

Mae'n ymddangos bod newid hinsawdd a'i effaith ar ein bywydau bob dydd yn cael ei drafod yn gyson - gyda rheswm da. Ond mae'r amser i siarad wedi dod i ben - os oes gobaith i ni roi cyfle i'n planed gynhesu’n llai cyflym, fel sy'n digwydd o flaen ein llygaid, yn ogystal â chael cyfle i leihau'r digwyddiadau hinsoddol sy'n dechrau effeithio arnon ni i gyd (rhai’n fwy difrifol nag eraill), mae angen i ni newid pethau nawr!     

 

Mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar bawb – yma yng Nghymru, ac mewn cymunedau o bedwar ban byd. Cafodd digwyddiadau tywydd eithafol 2022, fel stormydd diweddar Dudley, Eunice a Franklin - digwyddiad eithriadol o anarferol yn y DU yn ôl hinsoddegwyr - effaith ddinistriol ar lawer o'n cymunedau ar y ffin ac, yn anffodus, os na fyddwn ni’n gweithredu, byddwn ni’n wynebu stormydd fel hyn yn fwy aml fyth. Mae hyn yn golygu y byddwn ni i gyd yn dioddef canlyniadau llawer mwy dinistriol yn fwy rheolaidd. Yn fyd-eang, rydyn ni’n we ryng-gysylltiedig o gymdeithasau sy'n dibynnu ar ein planed am bopeth bron. Mae’n rhaid inni weithredu fel cymuned unedig i fynd i’r afael â’r broblem yma.    

 

I ddangos undod yma yng Nghymru a’r addewid i ymladd dros ein planed ochr yn ochr â’r gymuned fyd-eang, rwy’n eich gwahodd i gymryd rhan yn #Earthday.org a chodi ein llais fel cymuned fyd-eang i gefnogi ein hinsawdd a diffodd ein goleuadau am 8:30pm ar 26 Mawrth 2022 a'u cadw i ffwrdd am awr - Awr Ddaear!

 

Ysgyfaint y Ddaear 

Mae modd dychmygu mai coed yw ysgyfaint y Ddaear. Maen nhw’n chwarae rôl ymarferol o ran cadw ein planed yn iach - maen nhw'n gwneud hyn drwy amsugno carbon deuocsid a rhyddhau'r ocsigen rydyn ni'n dibynnu arno i oroesi.

 

Mae amsugno CO2 hefyd yn helpu i sefydlogi hinsawdd y Ddaear. 

Ledled y byd, maen nhw’n amsugno hyd at 2.4 biliwn o dunelli metrig o garbon bob blwyddyn, gyda'r Amason yn amsugno chwarter o'r cyfanswm.

 

Ar y Ddaear, mae agos i 3.04 triliwn o goed - sy'n swnio fel llawer! 

Ond, o edrych yn fanwl ar nifer y coed, mewn gwirionedd tua 422 o goed fesul person sydd yna, ac mae datgoedwigo yn gostwng hyn yn fwy fyth. 

 

Fodd bynnag, fel ni i gyd - un set o ysgyfaint sydd gan y Ddaear.   Gallwn ni helpu – gallwn ni helpu i blannu coed, neu annog cwmnïau rydyn ni’n prynu ganddyn nhw i fuddsoddi mewn cynlluniau i wrthbwyso eu carbon drwy blannu coed. Mae Cymru wedi cynnig Coedwig Genedlaethol yn cysylltu’r wlad â choridor ecolegol i wella bioamrywiaeth ar draws ein gwlad a chymryd camau ar newid hinsawdd.  

 

Gall y prif fygythiadau i'n coedwigoedd glaw ddod o'r pethau rydyn ni'n eu gwneud bob dydd! Mae hyn yn cynnwys ein defnydd o bethau, yr economi, gwrthdaro, technoleg ac epidemigau - ar ben hyn mae pwysau fel amaethyddiaeth, pysgodfeydd, ynni a thwristiaeth.   

 

 

Rydyn ni’n wynebu argyfwng enfawr o ran dyfodol ein byd os fyddwn ni ddim yn mynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar ansawdd y dŵr a beth rydyn ni’n ei roi yn ein hafonydd, ein moroedd a’n cefnforoedd. Mae dirywiad mewn ansawdd dŵr bellach yn broblem fyd-eang wrth i boblogaeth y byd dyfu ac wrth i weithgareddau diwydiannol ac amaethyddol ehangu.  

 

Mae gwastraff plastig yn un o broblemau amgylcheddol mwyaf dybryd ein cyfnod. Ond, er bod llygredd plastig yn fwyaf gweladwy mewn gwledydd datblygol pan welwch chi blastig ar wyneb y dŵr yn tagu afonydd a thraethau, mae yna broblem fwy sinistr allwn ddim ei gweld, sydd bellach wedi cyrraedd yr ecosystem forol a’n hecosystem ni o ganlyniad - meicroblastigau!   

 

Serch hynny, rydyn ni’n gwneud yn dda iawn yn ailgylchu yng Nghymru, ymhlith y gorau yn y byd drwy ailgylchu 60.7 y cant o'n gwastraff cartref! O'r plastigion rydyn ni'n eu defnyddio, mae tua 40 y cant yn dal i fod yn blastigion untro. Mae llawer ohonyn nhw’n cael eu defnyddio am oriau. ond mae’n gallu cymryd degawdau iddyn nhw ddiraddio, sy’n cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd. Mae yna opsiynau yn lle plastigion untro ac mae'n rhaid i ni, fel defnyddwyr, fod yn barod i fynnu newid i becynnau mwy cynaliadwy.      

 

Mae Cymru’n bwriadu gwahardd plastigion untro a deddfu, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, i helpu i ailgylchu deunydd pacio plastig drwy gynlluniau dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd. Byddan nhw hefyd yn ymestyn cyfrifoldebau cynhyrchwyr am ddeunydd pacio, gyda ffioedd uwch yn cael eu codi os yw’n fwy anodd ailddefnyddio neu ailgylchu’r deunydd pacio yma.  

 

Mae gyda ni lawer i’w ddathlu o ran gwneud ymwybyddiaeth amgylcheddol yn rhan o wleidyddiaeth a sgyrsiau prif ffrwd ond, mae’n rhaid inni i gyd ymdrechu i barhau a…

 

“Buddsoddi yn ein planed”.

 

 

Felly mae’n bwysig codi ein lleisiau i gefnogi ein hinsawdd a diffodd ein goleuadau am 8:30pm ar 26 Mawrth 2022 a’u cadw i ffwrdd am awr – Awr Ddaear