Barn, beics a hunlun! Edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd 2022

Cyhoeddwyd 23/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/05/2022   |   Amser darllen munudau

Gyda thair blynedd wedi mynd heibio ers Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro, 2019 mae Senedd Ieuenctid Cymru yn edrych ymlaen yn arw i dy groesawu di i’n stondin eleni yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych (30 Mai – 4 Mehefin).

Mae cymaint wedi newid ers 2019 gan gynnwys o fewn y Senedd Ieuenctid. Etholwyd y 60 Aelod presennol gan bobl ifanc Cymru mewn etholiad ar-lein ym mis Tachwedd 2021. Mae 40 Aelod yn cynrychioli 40 etholaeth dros Gymru gyfan a 20 Aelod yn cynrychioli 18 sefydliad partner yn cynnwys yr Urdd. Wyt ti’n gwybod pwy yw’r sefydliadau partner eraill tybed? Mae’r ateb i’w gael yma. Os nad wyt ti eisoes yn gwybod, gelli hefyd chwilio pwy sy’n dy gynrychioli di ar Senedd Ieuenctid Cymru yma.

Mae’r Aelodau, pob un rhwng 11 a 18 oed, wedi pleidleisio i ganolbwyntio ar

  • Ein hiechyd meddwl a lles
  • Yr hinsawdd a’r amgylchedd
  • Addysg a’r cwricwlwm ysgol

yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Bydd y gwaith yma, heb amheuaeth, yn adeiladu ar waith y Senedd Ieuenctid cyntaf; gelli atgoffa dy hun o’r gwaith hwnnw yma. Bydd cyfle i ti hefyd i gyfrannu i waith y Senedd Ieuenctid ar y tri pwnc yma a bydd cyfle i ti rannu beth sy’n bwysig i ti am y rhain yn Eisteddfod yr Urdd – cyfle gwych i ddefnyddio dy lais.

Felly, beth fydd gennym ni ar dy gyfer di ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni? Digon o gyfle i ti fynegi dy farn am faterion y Senedd Ieuenctid, cyfle i gadw’n heini ar feics Ynni Da, a gwefru dy ffôn ar yr un pryd. Pwy â ŵyr na fydd rhai o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cuddio yn y stondin hefyd!

Fel petai hynny ddim digon bydd cyfle i ti a dy ffrindiau i gael hunlun unigryw – cofnod perffaith o dy ymweliad â stondin Senedd Ieuenctid Cymru yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, 2022. Welwn ni ti yno!