Cipolwg ar: Talking Hands

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2021   |   Amser darllen munudau

Yma yn Senedd Ieuenctid Cymru, ry’n ni’n falch i weithio gyda sefydliadau arbennig sy’n gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir ar draws Cymru. Yn ystod ei hail dymor, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda 18 sefydliad partner, a dros y misoedd nesaf, byddwn yn cymryd cipolwg ar bob un ohonynt ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol. I ddechrau, felly, dyma’ch cyfle i ddysgu mwy am Talking Hands - clwb ieuenctid yn Abertawe sy’n agored i blant a phobl ifanc Byddar neu drwm eu clyw ledled Cymru.

Talking Hands

Clwb ieuenctid yw Talking Hands, sydd wedi'i leoli yn Abertawe sy'n cefnogi plant a phobl ifanc Byddar. Maent yn annog aelodau i ddysgu, datblygu sgiliau newydd, cael hwyl a mwynhau eu hunain.  "Mae Talking Hands wedi bod yn falch o gefnogi ein pobl ifanc i gymryd rhan weithredol yn Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru. Mae'r profiad y mae wedi'i roi i'n pobl ifanc wedi bod mor werth chweil am eu hyder a'u hunan-barch wedi bod yn bleser i'w gwylio. " (Cathie Robins-Talbot, Prif Weithredwr Talking Hands).

Cynrychiolwyr Blaenorol Senedd ieuenctid Cymru o Talking Hands

Sophie Billinghurst

"Os gallwn ysbrydoli un person ifanc yn unig i brofi rhywbeth newydd, heriol a chyrraeddadwy, yna rydym wedi llwyddo yn ein gobeithion ar gyfer ein pobl ifanc. Diolch am y cyfle i ddangos iddyn nhw y gallan nhw lwyddo, maen nhw'n gallu cyflawni, mae ganddyn nhw lais" Sophie Billinghurst

Mae Sophie wedi bod yn wirfoddolwr gweithgar a llewyrchus yn Talking Hands, yn cefnogi ei theulu a'r gymuned ehangach ac ennillodd Sophie wobr Pwyntiau Golau yn ddiweddar.

Taflodd Sophie ei hun i mewn i Senedd Ieuenctid Cymru; roedd hi wrth ei bodd yn mynd i'r Senedd, gwneud ffrindiau ac yn trafod y prosiect yn agos at ei chalon - Iechyd Meddwl a Lles. Mae Sophie bob amser wedi teimlo'n angerddol bod angen gwneud mwy i helpu pobl ifanc, ond yn bwysicaf oll rhoi llais i bobl ifanc Byddar.

7 cwestiwn i Sophie

Hi, Sophie Billinghurst ydw i

  • Rwyf wedi bod yn aelod o Talking Hands ers 2015
  • Mi ddes yn aelod oherwydd pan symudais i Abertawe yn 2012 darganfuom fod fy chwaer iau wedi colli ei chlyw ac yna ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach cawsom wybod am Talking Hands.
  • Ers dod yn aelod rwyf wedi cael y cyfle i ddysgu iaith arwyddion, cwblhau cymhwyster lefel 1 a datblygu fy iaith arwyddion. Rwyf hefyd wedi cael hwb hyderus dros y blynyddoedd gyda Talking Hands gan fy mod wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi gallu siarad yn gyhoeddus gan ddefnyddio iaith arwyddion.
  • Y profiad gorau rwyf wedi'i gael fel aelod yw cael fy ethol i gynrychioli'r gymuned fyddar yn Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru a defnyddio iaith arwyddo yn fy araith gyntaf yn y Senedd.
  • Mae Talking Hands yn golygu cael cefnogaeth a chymuned lle gall plant a phobl ifanc sy'n fyddar neu sydd â cholled clyw a'u teuluoedd gael cymorth. Mae hefyd yn rhoi sgil gydol oes o iaith arwyddion y gellir ei defnyddio yn y gymuned ehangach.
  • Mae'r gwaith y mae Talking Hands yn ei wneud yn bwysig am ei fod yn grymuso plant a phobl ifanc sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw a'u teuluoedd i gael y sgil o iaith arwyddo a all eu helpu i gyfathrebu a pheidio â theimlo mor ynysig mewn cymdeithas â'r rhwystr cymunedol. Mae Talking Hands hefyd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gymdeithasu ag eraill sydd hefyd yn deall rhwystrau'r gymuned fyddar.

 

William Hackett

Mae Will yn chwaraewr brwd  o sawl camp sy’n angerddol am ddiogelu glan y môr lle cafodd ei fagu, etholwyd Will i'r Senedd Ieuenctid gyntaf gan ei gyfoedion a daeth yr aelod ieuengaf yn 11 oed yn unig.  Mae'n angerddol am yr amgylchedd yn enwedig gwastraff plastig gan ei fod yn byw ger y môr, mae Will wedi gweld yr holl wastraff yn cael ei olchi i fyny a'r niwed y mae'n ei wneud i fywyd morol.

7 cwestiwn i Will

Hi, fy enw i yw Will ac rwy'n aelod o Talking Hands ac yn gyn-aelod o WYP.

Rwyf wedi bod yn aelod o Talking Hands ers tua 6 blynedd.

Mi ddes i yn aelod oherwydd roedd yn ymddangos fel cyfle da i gwrdd â phobl yn y gymuned fyddar.

Ers dod yn aelod rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau ac wedi gwella fy ngalluoedd arwyddo a chyfathrebu yn aruthrol.

Y profiad gorau dwi wedi'i gael fel aelod oedd pan aethom i syrffio am ei fod yn llawe o hwyl.

I mi, mae Talking Hands yn gymuned garedig sy'n llawn pobl neis.

Mae'r gwaith y mae Talking Hands yn ei wneud yn bwysig am ei fod yn helpu i gefnogi pobl fyddar drwy roi lle iddynt fynd lle gallant ymlacio a chael hwyl.

 

Diolch Sophie a Will. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Talking Hands dros gyfnod Senedd Ieuenctid nesaf Cymru.