CIPOLWG AR: VOICES FROM CARE CYMRU (VFCC)

Cyhoeddwyd 25/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/10/2021   |   Amser darllen munudau

Yma yn Senedd Ieuenctid Cymru, rydyn ni’n falch o weithio gyda sefydliadau gwych sy'n gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir ledled Cymru.  Yn ystod ei hail dymor, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda 18 o sefydliadau partner, a byddwn ni’n eu cynnwys yma ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol dros yr ychydig fisoedd nesaf. 

Yr wythnos hon, rydym yn dod i nabod Voices From Care Cymru (VFCC), sy’n Elusen Plant a Phobl Ifanc flaenllaw yng Nghymru, sy'n bodoli i wella bywydau plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal. Mae'r Elusen yn llais annibynnol i'r gymuned gofal drwy amrywiaeth o brosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau sefydledig sy'n dathlu profiad gofal megis #CareDay a #ProudToBeMe.

Voices From Care Cymru (VFCC)

Mae VFCC yn elusen annibynnol flaenllaw yng Nghymru sy'n gweithio gyda rhai o'r plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Hwyrach bod y bobl ifanc a’r teuluoedd hynny yn cael trafferthion wrth gael gafael ar wasanaethau priodol ym maes iechyd, addysg neu ofal cymdeithasol a bod arnynt angen eiriolaeth annibynnol. Mae eu gwasanaeth lles yn cefnogi pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal ac sydd angen cefnogaeth i roi llais iddynt ar faterion sy'n bwysig iddynt, ac sy'n effeithio arnynt yn uniongyrchol.

Mae VFCC yn falch iawn o fod yn gweithio fel Sefydliad Partner gyda Senedd Ieuenctid Cymru eto, ac mae’n falch bod cyfle i'r bobl ifanc y mae’n eu cefnogi gael eu clywed gyda 2 Aelod yn dychwelyd yn dilyn yr etholiadau ym mis Tachwedd.




"Rwy'n cynrychioli Voices From Care. Un o'm hystyriaethau pennaf yw plant a phobl ifanc mewn gofal. Mae hyn yn bwysig gan fy mod i fy hun mewn gofal maeth ac rwyf am helpu pobl lai breintiedig sydd hefyd o fewn y system"
, Chloe Giles (Cyn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru).

 
Yn fwyaf diweddar, lansiodd VFCC ei ymgyrch ‘1,000 o Leisiau’, sy'n galw ar Brif Weinidog Cymru i ymrwymo i wrando ar fil o blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal erbyn 2024. Nod yr ymgyrch yw gweld system ofal sydd wedi ei hadeiladu ar sefydlogrwydd, dyheadau a pherthnasoedd.


 

Ochr yn ochr ag ymgyrchoedd o'r fath, mae'r Elusen yn darparu amryfal gyfleoedd i bobl ifanc ddod at ei gilydd ledled Cymru, i leisio eu barn ar y materion sydd bwysicaf iddynt a chwrdd â phobl ifanc eraill sydd wedi bod mewn gofal. O grŵp cynghori cenedlaethol, fforymau lleol, cynllun mentora cyfoedion a grŵp Lleisiau CASCADE sy'n cael ei redeg gyda Phrifysgol Caerdydd i gynghori ymchwilwyr ar bynciau iechyd a gofal cymdeithasol, dewiswyd yr Elusen yn ddiweddar gan Michael Sheen ac Anna Lundberg i dderbyn dros £16,000 fel rhan o gronfa 'Ymgyrch Curl Whtie'.

Mae'r Elusen genedlaethol yn cymryd rhan yn y digwyddiad #CareDay blynyddol sy'n ceisio gwaredu’r stigma sy'n wynebu plant a phobl ifanc sydd wedi bod yn y system ofal. Caiff dathliadau yng Nghymru eu harwain gan VFCC, a'u nod yw gwella bywydau pobl ifanc drwy fod yn llais annibynnol.

(Mae ‘Care Day’ yn fenter ar y cyd rhwng elusennau plant ledled y DU gyfan o dan Gynghrair 5 Nations 1 Voice. Dyma’r elusennau: Who Cares? yn yr Alban, Become yn Lloegr, VOYPIC yng Ngogledd Iwerddon, EPIC yn Iwerddon a Voices from Care Cymru yma yng Nghymru.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am VFCC gallwch ymweld â'u gwefan.