Cyfarfod Llawn: Ail Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 03/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2022   |   Amser darllen munudau

Roedd wedi cyrraedd, y diwrnod hollbwysig, y diwrnod tyngedfennol. Ers misoedd, roeddem wedi bod yn paratoi; o’r etholiad i’r holiaduron, y trafodaethau, y cyfarfodydd rhanbarthol a’r postiadau ar y cyfyngau cymdeithasol. Roedd hi’n deimlad eithaf swreal sylweddoli ein bod, o’r diwedd, am gael cyfarfod llawn.

Profiad bythgofiadwy oedd ein cyfarfod cyntaf fel ail Senedd Ieuenctid Cymru. Er bod y cyfarfod dros sgrin, cawsom gyfle unigryw i rannu ein syniadau â phobl ifanc ledled Cymru, gyda phob un ohonom â rhywbeth yn gyffredin - eisiau gwneud gwahaniaeth. Yn wir, o glywed yr areithiau, roedd yn amlwg pa mor angerddol oedd pawb dros y materion a gafodd eu dewis, ac nid oeddwn yn synnu bod nifer o’r problemau mae fy etholaeth yn eu hwynebu hefyd yn effeithio ar ardaloedd eraill ar draws Cymru.

Areithiau ysbrydoledig ddydd Sadwrn, bore’r cyfarfod. Nerfau’n cymryd gafael. Roeddwn yn ymwybodol iawn y byddai hyn yn cael ei recordio, ar gael i unrhyw un ei weld. Er hyn, pan gefais fynediad i'r cyfarfod, sylweddolais, wrth weld wynebau fy nghyd-Aelodau, nad oedd dim byd i mi boeni amdano - roeddem ni i gyd yn yr un sefyllfa! Wrth syllu ar y sgrin, teimlais awydd yn fwy nag unrhyw beth - roedd y cyfarfod am ddechrau! Gyda‘r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio, teimlodd fel ein bod o ddifrif yn rhan o weithgareddau Senedd Cymru, a bod pobl mewn pŵer yn clywed ein barn, sy’n gallu ein helpu i leisio ein syniadau, yn ogystal â’u gweithredu.




Un o’r materion cyntaf a drafodwyd oedd yr hinsawdd a’r amgylchedd, yn fy marn i, mater a ddylai fod ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn fel Senedd Ieuenctid Cymru. Wrth wrando ar areithiau pawb, cyseiniodd gyda fi pa mor gyflym y mae’n rhaid i ni weithredu. Argyfwng ydyw, a chyda chymaint o aelodau’n dewis siarad am y pwnc, y mae’n amlwg ei fod yn andros o bwysig i blant a phobl ifanc Cymru, teimlais nad oedd dewis gyda fi heblaw am bleidleisio dros y mater yma.

Yn arbennig, roedd y gyfres o areithiau’n trafod iechyd meddwl yn bwerus tu hwnt, oherwydd y trafododd rhai eu profiadau personol. Roedd hi'n fraint gwrando ar y rhain, ond roedd hefyd yn fy synnu i - ni sylweddolais fod y gefnogaeth bresennol mor wan. Roedd yr ystadegyn bod 1 o bob 6 pherson ifanc yn dioddef problemau iechyd meddwl yn cadarnhau bod rhaid i ni wneud mwy o ran llesiant plant a phobl ifanc.

Yna, yn llawer cyflymach nag y disgwyliais i, daeth yr amser i gyflwyno fy mhwnc, tlodi ac anfantais. Yn naturiol, roeddwn yn nerfus tu hwnt, yn gobeithio na fyddwn yn baglu dros fy ngeiriau, na fydd problemau technolegol ac yn amau, a fydd fy araith cystal ag un pawb arall? Yn sicr, roedd hi’n angenrheidiol i mi gyfleu pwysigrwydd mynd i’r afael â’r mater. Er fy mod yn ddigon ffodus i gael mynediad i’r angenrheidiau sylfaenol, nid yw hynny’n wir i bawb.

Roedd hi’n anodd tu hwnt penderfynu ar dri mater yn unig. Gwrandawais ar areithiau torcalonnus, rhai crac, rhai penderfynol, ond pob un yn angerddol, ac yn hynod berswadiol. Eto, mae pob mater yn hynod, hynod bwysig, Fodd bynnag, roedd rhaid gwneud dewis - dyna beth yw bod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid, rhannu barn ac yna gwneud penderfyniadau anodd. Yna roedd hi'n amser aros. Roeddem ni i gyd yn awyddus i wybod - beth y byddwn yn canolbwyntio arno yn y ddwy flynedd nesaf?

Harriet Wright-Nicholas, Aelod dros Gaerffili