Cyngor Ieuenctid Conwy

Cyhoeddwyd 20/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r amser bron ar ben i chi fwrw eich pleidlais yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru. Cafodd aelod o’n tîm gyfle i gyfarfod â rhai o bobl ifanc y fforwm a’u holi pam ei bod hi’n bwysig i bobl ifanc gymryd rhan yn yr etholiad.

Dyma beth oedd gan Richard Jones i’w ddweud:

“Rwy'n credu'n gryf ei bod yn bwysig iawn cael Senedd Ieuenctid. Dyma'r ffordd berffaith o gynnwys pobl ifanc mewn democratiaeth a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae'n syniad gwych gan Gynulliad Cymru gan ei fod o'r diwedd yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc sefyll i fyny ar gyfer ieuenctid eu hardal a sicrhau bod pawb yn clywed eu syniadau. Rwy'n teimlo y bydd hefyd yn paratoi unrhyw wleidyddion y dyfodol ar gyfer eu gyrfa bosibl oherwydd y bydd yn rhoi profiad iddynt o drafod gydag eraill a chydweithio er lles pawb.

Rwyf wedi bod ar Gyngor Ieuenctid Conwy am dros flwyddyn erbyn hyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf wedi gallu gweithio gyda phobl o bob oedran a chefndir ar nifer o brosiectau cyffrous. Rwyf hefyd wedi cael yr anrhydedd o gynrychioli'r cyngor ieuenctid fel rhan o Llais Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn brofiad arbennig wrth ddod i adnabod pobl ifanc eraill. Mae'n bwysig cofrestru oherwydd mai eich senedd ieuenctid chi yw hon, a chi a ddylai fod â'r penderfyniad o bwy rydych chi am ei ethol; dyma'r person a fydd yn y pen draw yn sefyll drosoch chi.”

Mae pleidleisio’n hawdd ac yn cymryd dwy funud! Os wyt ti wedi cofrestru, fe ddylet ti fod wedi derbyn ebost. Dilyna’r linc ar hwnnw a phleidleisia dros y person yr hoffet ti i dy gynrychioli.

Mae pleidleisio’n hawdd ac yn cymryd dwy funud! Os wyt ti wedi cofrestru, fe ddylet ti fod wedi derbyn ebost. Dilyna’r linc ar hwnnw a phleidleisia dros y person yr hoffet ti i dy gynrychioli.

Mae Derwen Fay yn 15 ac yn cael ei addysgu o adref. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud:

“Yn sgil fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth, fe wnes i ymuno â Chyngor Ieuenctid Conwy eleni. Mae Cyngor Ieuenctid Conwy yn amgylchedd gwych ar gyfer dadlau a sgwrs, a gweithio tuag at nod terfynol, er enghraifft poster, fideo neu neges er mwyn tynnu sylw at faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc yn ein hardal.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi edrych ar ymwybyddiaeth o gyffuriau ac alcohol fel ein pwnc. Yn y cyfnod hwnnw, rydym wedi cael cyfarfodydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, CAIS a sefydliadau eraill i siarad am y materion sy'n ymwneud â'r pwnc. Ar ddiwedd y flwyddyn, gyda chymorth dylunydd graffig, fe wnaethom boster yn codi ymwybyddiaeth o'r mater i bobl ifanc.

DSCF3161.JPG

Eleni, rydym yn canolbwyntio ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd, sy'n fater cyffrous iawn i ni fel mater sy'n newid ac sy'n arbennig o berthnasol i bobl ifanc. Yn sgil fy nghyfranogiad ar Gyngor Ieuenctid Conwy, cefais wybod am Senedd Ieuenctid Cymru a phenderfynais sefyll fel ymgeisydd.

Cefais fy ysbrydoli i wneud hyn oherwydd fy mod yn teimlo'n gryf y dylai pobl ifanc gael llais yn y broses ddemocrataidd. Yn olaf, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru ethol cynrychiolydd sy'n poeni am y materion sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'n rhoi llwybr i bobl ifanc ymgysylltu â gwleidyddiaeth ac yn eu hannog i ddysgu am y broses ddemocrataidd mewn ffordd wirioneddol.

Mae'n rhoi grym i bobl ifanc Cymru allu cael llais o ran llunio Cymru'r dyfodol. Os nad ydych chi’n pleidleisio, yna rydych chi'n gwastraffu'ch cyfle i lywio dyfodol ein gwlad, oherwydd mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar bawb.”

“MAE'N RHOI GRYM I BOBL IFANC CYMRU ALLU CAEL LLAIS O RAN LLUNIO CYMRU'R DYFODOL.”