Digwyddiad Addysg Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 24/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/10/2023   |   Amser darllen munudau

Ar 25 Medi, yn hen siambr y Senedd ym Mae Caerdydd, fe wnaethon ni gynnal digwyddiad ymgysylltu fel rhan o’r ymgynghoriad ar #FyNiwrnodYsgol gyda disgyblion ysgolion uwchradd o dde Cymru.

Ychydig wythnosau ynghynt, roeddwn i wedi gwirfoddoli i gadeirio trafodaeth gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol – o fy safbwynt i, roedd yn gyfle rhy dda i'w golli.

Pan ges i’r pecyn briffio gyda’r manylion am aelodau’r panel a’u meysydd diddordeb, roedd cyfoeth eu profiad yn glir: gydag aelod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd a chyn-athro’n cymryd rhan, byddai’n anodd trefnu panel gwell i ateb cwestiynau pobl ifanc ar addysg.

Roedd paratoi ar gyfer y diwrnod ei hun yn golygu ymarfer gwneud cyflwyniadau a rhoi gair o groeso, sut i ddelio â chwestiynau, a rhoi cyfle teg i’r panel ateb… yn gryno, lot o siarad â fi fy hun. Ond dyma lais bach yn fy mhen yn dweud yn gyson bod rhywbeth yn sicr o fynd o’i le, waeth faint roeddwn i’n paratoi.

Felly, nid oedd yn syndod i ddysgu, wrth gyrraedd Bae Caerdydd, fod dau aelod o’n panel yn methu dod – mae byd gwleidyddiaeth, yn ddealladwy, yn fyd sy’n newid drwy’r amser. O’r sydyn dyma fy ngwaith paratoi yn troi’n rhwystr, mewn ffordd, wrth i mi orfod golygu fy nodiadau ac atgoffa fy hun i gyfeirio at y “ddau aelod o’n panel”, yn lle pedwar. Roedd cael llai o amrywiaeth ar y panel yn siomedig braidd, ond edrychais ar y peth fel cyfle i gael atebion hirach, manylach gan yr aelodau ar ein panel, a mwy o ryngweithio â’r bobl ifanc yn y gynulleidfa.

Grwpiau ffocws y bore

Daeth grwpiau ffocws y bore i ben, a gwnaethon ni stopio am ginio. Cyrhaeddodd aelodau’r panel, ac roeddwn i'n llawn cyffro, yn ogystal â rhywfaint o nerfau.

Gwnaeth aelod o staff Comisiwn y Senedd fy nghyflwyno i Vikki Howells, aelod y Blaid Lafur dros Gwm Cynon. Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd Heledd Fychan, cynrychiolydd Plaid Cymru dros ranbarth Canol De Cymru, ac felly bant â ni.

Roedd hen ddigon o gwestiynau. Roedd llawer ohonyn nhw wedi cael eu cyflwyno ymlaen llaw, ac er ei bod yn anochel, roedd hi’n dal yn siom peidio â’u cyrraedd i gyd. Roedd rhai o’r cwestiynau’n canolbwyntio ar gymorth ariannol i fyfyrwyr, a gwnaeth aelodau’r panel drafod y rhwystrau i o ran cael prentisiaethau a mynd i addysg uwch. Siaradodd Heledd Fychan am y gobeithion y byddai’r dull asesu’n newid, i ffwrdd o gymwysterau sy’n seiliedig ar arholiadau yn unig, a thynnodd Vikki Howells ar ei hamser fel Pennaeth Cynorthwyol Chweched Dosbarth wrth sôn am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Fi yn cadeirio'r panel gyda'r panelwyr Heledd Fychan AS  a Vicky Howells AS.

Ond ymhlith y cwestiynau a gyflwynwyd ymlaen llaw, dim ond un wnaeth godi ddwywaith: “A all astudio’r Gymraeg fod yn ddewisol yn hytrach nag yn orfodol?”

Mae hwn yn gwestiwn y mae gan bobl ar y ddwy ochr deimladau cryf iawn yn ei gylch, ond cytunodd y panel y dylai bron pob person ifanc ddysgu Cymraeg. Dadleuodd un ar y panel mai prin yw’r gwledydd hynny, os o gwbl, lle nad yw pobl ifanc yn dysgu eu hiaith genedlaethol. Dywedodd yr aelod arall sut, fel plentyn, ei bod hi wedi dewis astudio ieithoedd tramor modern yn lle’r Gymraeg - disgrifiodd hynny fel ei phenderfyniad gwaethaf. Roedd un safbwynt yn deillio o wladgarwch, a'r llall yn deillio o edifarhau, ond yr un oedd y casgliad.

Roedd taith o gwmpas y Senedd yn galw, a chyfle delfrydol i ymestyn ein coesau, felly daeth y drafodaeth i ben ar ôl tua 40 munud; rwy'n siŵr y gallai fod wedi parhau am o leiaf 40 munud arall. Gwnaethon ni gasglu ein pethau a chamu i awel yr hydref i gerdded y pellter byr i adeilad y Senedd.

Taith o'r Senedd

Yn sicr, roedd yn brofiad diddorol a phleserus, ac rwy’n gobeithio bod y bobl ifanc eraill yn cytuno. Roedd aelodau’r panel yn hael iawn gyda eu hamser i ddod i’r digwyddiad, ac rwy’n siŵr y byddan nhw wedi dysgu cymaint o’r cwestiynau gafodd eu gofyn ag y gwnaethon ni ei ddysgu o’u hatebion.

Fe wnaethom hefyd gynnal digwyddiad tebyg yng Ngogledd Cymru, yn Sarn Mynach, Llandudno ar y Dydd Gwener flaenorol a fynychwyd gan ysgolion lleol lle cafwyd grwpiau ffocws a thrafodaethau panel lond cystal â diddorol. Roedd panelwyr y Gogledd yn cynnwys:  Gareth Davies AS, Mabon a Gwynfor AS a Ken Skates AS. Diolch i bob ysgol ac i'r holl banelwyr am eu cyfraniadau ac am wneud y diwrnod yn un mor gofiadwy.

Cyfranogwyr a phanelwyr digwyddiad y Gogledd. Panelwyr o flaen y bwrdd o'r chwith: Gareth Davies AS, Mabon ap Gwynfor AS a Ken Skates AS.

 

Gan Finn Sinclair, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro