Digwyddiadau Ffyrdd Gwyrdd

Cyhoeddwyd 05/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/06/2023   |   Amser darllen munudau

I nodi ein hymgyrch #FfyrddGwyrdd fe gynhaliom dau ddigwyddiad (un yn y De ac un yn y Gogledd) i dynnu sylw pobl ifanc a chasglu eu barn am sefyllfa trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.

Ers ein hethol ag i ni ddewis y Pwyllgor Hinsawdd ac Amgylchedd i fod yn rhan ohonno, fe benderfynom ganolbwyntio ar ffactorau yn effeithio penderfyniadau pobl ifanc sy’n eu hatal rhag deithio yn fwy cynaliadwy; boed hyn yn feicio, dal y bws, trên neu gerdded.

Cynhaliwyd digwyddiad y Gogledd yng Nghanolfan Gymdeithasol Blaenau Ffestiniog gyda’r nos a chynhaliwyd digwyddiad y De ym Mhencadlys Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd. Cafwyd ystod o weithgareddau, stondinau, grwpiau ffocws, gweithdai, areithiau a chyfle i fynychwyr gwblhau ein holiadur.

Pobl ifanc yn cyfranogi yn nigwyddiad yng Nghanolfan Gymdeithasol Blaenau Ffestiniog

Mynychodd rhyw 110 o bobl ifanc ein digwyddiadau a ddaeth o ystod o ysgolion lleol a braf oedd profi presenoldeb ysgolion ADY yn ein plith hefyd yn cynnwys Ysgol Y Deri, Headlands ac Ysgol Hafod Lon (gweler rhestr lawn o ysgolion ar ddiwedd yr erthygl).

Yn nigwyddiad y gogledd, cawsom bresenoldeb mudiad lleol GwyrddNi sy’n agor drysau ar gyfleoedd cynaliadwy yn ardal Gwynedd. Yn nigwyddiad y De clywsom am brofiadau disgyblion o ysgolion Llangynwyd a Llanhari am eu profiadau yn mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn benodol am eu profiadau lleol yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Fel y soniodd Harrison Williams, ASIC Boys and Girls Clubs Cymru yn ystod y digwyddiad: “Fel ydych oll yn ymwybodol mae trafnidiaeth yn gyfrannydd tuag at allyriadau carbon ond nid ydym i gyd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio yn llesol eto. Hoffem wybod beth mae pobl ifanc yn gredu – beth yw’r sefyllfa, beth fyddai’n perswadio pobl ifanc i ddefnyddio fwy o drafnidiaeth gyhoeddus, bysus neu gerdded at lefydd?”

Grwp ffocws o bobl ifanc ym Mhencadlys Trafnidiaeth Cymru, Pontypridd

Rhoesom hefyd gyfle i bobl ifanc mapio allan y sefyllfa yn eu hardal leol o rhan y ffactorau sy’n eu rhwystro rhag dewis opsiynau gwyrdd - ein 4 prif bynciau o gost, cynaliadwyedd, diogelwch a hygyrchedd.Gofynnom y cwestiwn ‘beth fyddai teithio delfrydol yng Nghymru yn edrych fel i ti yn y dyfodol?’

Bu Ffion Fairclough, ASIC Pontypridd hefyd yn cael ei chyfweld yn ystod y dydd gan rhaglenni ffeithiol y newyddion a Ffeil.

Llun

Mi fyddwn yn mynd a’r ymgynghoriad hwn a gweithgareddau pellach y Senedd Ieuenctid at Eisteddfod yr Urdd a’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Gobeithiwn eich gweld yno!

Ysgolion a gynrychiolwyd yn ein digwyddiadau

Ysgol Gyfun Gartholwg

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ysgol Hafod Lon

Ysgol y Deri

Ysgol Headlands

Ysgol y Moelwyn

Ysgol Eifionydd

Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

Ysgol Gymunedol Senghenydd

Pontypridd High School

Ysgol Gyfun Rhydywaun

Ysgol Gyfun Llanhari

Ysgol Gyfun Llangynwyd

Cerys Hnt o Ysgol Gyfun Llangynwyd yn rhannu ei phrofiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ei hardal.

Cyfranwyr at y dydd

Fe’m hymunwyd hefyd yn ein digwyddiadau gan dimoedd cynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru, Sustrans Cymru, Y Dref Werdd, Great Western Rail, Rail Future Wales a Chynaliadwyedd y Senedd.