Faint o bobl sydd eu hangen i adeiladu senedd ieuenctid sy'n cynrychioli'r holl bobl ifanc yng Nghymru?
![Urdd.png](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/58fde1753a041197bb9aef23/1529411629916-PSSFKYUO02LPPWTFLPBZ/ke17ZwdGBToddI8pDm48kILDnh18pNJ_AmVC5sFUKXR7gQa3H78H3Y0txjaiv_0fDoOvxcdMmMKkDsyUqMSsMWxHk725yiiHCCLfrh8O1z4YTzHvnKhyp6Da-NYroOW3ZGjoBKy3azqku80C789l0lUpzwar0LLM5PAGBDhh-sqfsfGbcY3nPcQ18Zk_Krf-Hj0X4a4M6DwUW3jaoDz4mQ/Urdd.png)
Llawer.
Mae miloedd ohonoch wedi rhoi eich sylwadau, awgrymiadau a syniadau i ni ynghylch sut y dylai eich senedd ieuenctid edrych.
Diolch.
Dechrau'r daith yw hyn. Ar ôl gwrando arnoch chi ac addo sefydlu senedd ieuenctid sy'n cynrychioli pob un ohonoch, roedd yn bwysig gofyn i chi beth yr oeddech chi ei eisiau.
Rydym wedi ein syfrdanu gyda'r ymateb yr ydych wedi'i roi i ni. I bawb y gwnaethom gyfarfod â chi ar hyd y lle, ac a lenwodd y ffurflenni ymgynghori wyneb yn wyneb ac ar-lein, rydym yn ddiolchgar iawn am eich cyfraniad i helpu i greu eich senedd ieuenctid.
Rydych chi wedi dweud wrthym:
- Sut rydych am i'ch senedd ieuenctid eich cynrychioli chi
- Pa enw a ddylid ei roi ar y senedd ieuenctid a phwy ddylai fod yn aelodau ohoni
- Sut rydych am i'ch senedd ieuenctid weithio
- Beth ddylai gwerthoedd y senedd ieuenctid fod.
Rydym yn awr yn hyderus bod gennym amrywiaeth eang o safbwyntiau a barn i greu'r senedd ieuenctid a fydd yn gwneud Cymru'n lle gwell i chi, ar gyfer eich dyfodol.
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad.
![PO signature.png](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/58fde1753a041197bb9aef23/1511530678464-BBJKAZ5HKPR62JCGFU67/ke17ZwdGBToddI8pDm48kBh3nXg7h9Rlnxk6Ee1Eo4DlfiSMXz2YNBs8ylwAJx2qrCLSIWAQvdC7iWmC9HNtRTQeSVAP8dJMe440pbFTJRbwbDAg3HsK0A4V-dJ1CqhS5EPjw0LqguQAbYkUnZMyIA/PO+signature.png)
Elin Jones AC/AM
Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru