Diwrnod Hawliau Dynol

Cyhoeddwyd 10/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2020   |   Amser darllen munudau

Y 10fed o Ragfyr yw Diwrnod Hawliau Dynol ac fe hoffwn i petai pawb yn ymuno i mewn ac yn deall ystyr y diwrnod. Cafodd y diwrnod hwn ei fabwysiadu gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Hawliau dynol yw’r hawliau sylfaenol a’r rhyddid sydd yn perthyn i bob person yn y byd. Mae hanes ein hawliau dynol ni yn un hir. Mae’r syniadau am hawliau dynol wedi esblygu dros amser ac wedi derbyn cefnogaeth ryngwladol yn dilyn digwyddiadau trychinebus hanesyddol fel yr Holocost a’r Rhyfel Byd Cyntaf, er mwyn amddiffyn a diogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag anwybyddu hawliau dynol ei gilydd yn llwyr.

Mae’r datganiad hawliau dynol cyffredinol yn rhywbeth sydd yn cynnwys pob un ohonom ac yn cael effaith ar bawb o bob cefndir gan eu bod yn datgan pa hawl sydd gyda ni i wneud beth. Mae’r datganiad hefyd yn grymuso pob un ohonom drwy ysbrydoli pobl a chofio fod gan bawb hawliau teg a ddylai cael eu gweithredu’n deg. Dylai pawb gael gwybod am eu hawliau dynol fel bod pawb yn cael eu trin yn deg. Mae’n glir fod camwahaniaethu yn parhau i ddigwydd yn ein byd ni a bod rhai pobl mewn rhai gwledydd yn fwy ffodus nag eraill. Mae’n rhaid i ni sefyll lan dros ein hawliau ein hunain a phobl eraill a gwybod mai byd teg yw byd lle mae gan bawb hawliau dynol a’u bod yn gallu parhau i wneud cynnydd wrth geisio diogelu cenedlaethau’r dyfodol a’u hawliau nhw fel pobl. 

Y thema am y flwyddyn hon yw pobl ifanc yn sefyll i fyny dros hawliau dynol ac mae hyn yn berthnasol iawn i ni fel Senedd Ieuenctid Cymru. Mae’n bwysig i bobl ifanc gael llais er mwyn gwneud gwahaniaeth ac rydym ni fel pobl ifanc gyda’n hawliau ni hefyd. Mae 42 ohonynt ac maent yn rhan o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plentyn.  Mae’r 42 hawl hwn yn cynnwys y pethau sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i dyfu’n unigolion hapus, iach a diogel. Yn 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf i ymgorffori’r confensiwn i fod yn rhan o’r gyfraith ac mae hynny’n beth gwych. Hoffwn i bob plentyn a pherson ifanc wybod nad ydyn nhw byth yn rhy ifanc i wneud gwahaniaeth ac nad ydyn nhw byth ar eu pen eu hunain chwaith. Mae cyfranogiad pobl ifanc yn bwysig er mwyn gwneud gwahaniaeth ac i ysbrydoli’r cenedlaethau i ddod a phob un person ifanc i gymryd rhan ac i wybod y dylai pob un llais gael ei glywed.

I mi, fe ddylai diwrnod hawliau dynol fod yn ddiwrnod i ddathlu cydraddoldeb ac yn ddiwrnod i ddathlu ac arfer ein hawliau dynol ni. Yn bersonol, credaf gallwn ni i gyd ddefnyddio’r diwrnod hwn er mwyn cofio anghydraddoldeb ac anghyfiawnderau’r gorffennol, eu cydnabod, a’u defnyddio i ddysgu a symud ymlaen gan sicrhau cydraddoldeb yn ein hawliau dynol ni a thegwch i bawb. Mae hawliau dynol wedi seilio ar falchder, urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac ymreolaeth. Mae’r gwerthoedd hyn yn diogelu ein rhyddid, a’n rheolaeth ni o’n bywydau ein hunain. Mae hawliau dynol yn golygu bod gennym ni’r hawl i ryddid ac i greu penderfyniadau ein hunain ac i gymryd rhan ac i fod yn rhan o gymdeithas, sydd yn rhywbeth y dylai pawb ei gael ac mae’n warthus nad dyma’r sefyllfa i bawb yn y ganrif hon.

Rhaid i ni gyd warchod ein hawliau dynol ni drwy sefyll i fyny drostyn nhw ac felly gallwn gymryd camau yn ein bywydau dyddiol er mwyn cynnal ein hawliau ni a hyrwyddo’r perthnasau i bob bod dynol. Mae pob person yn ein byd ni yn haeddu’r un hawliau â’r person drws nesaf. Rhaid parchu pob unigolyn, pob crefydd, pob hil, pob rhyw, dysgu o’r gorffennol a chynllunio byd lle mae gan bawb yr un cyfleoedd mewn bywyd i wneud beth sy’n iawn iddyn nhw ac i wneud gwahaniaeth yn y byd. Mae gan bawb yr hawl i wneud gwahaniaeth, pwy bynnag ydyn nhw ac mae’n rhaid parchu hynny a pharchu ein gilydd a gwybod fod neb yn israddol i’w gilydd. Cafodd pawb eu geni gyda rhyddid a chydraddoldeb, ac mae pawb yn haeddu cael rhyddid a chydraddoldeb drwy gydol eu bywydau. Dylem gofio am ddiwrnod hawliau dynol a’i bwysigrwydd i’n bywydau bob dydd.